Mae’n anodd credu y bydda i yn hedfan i Qatar mewn llai na mis – ac yn gwylio Cymru yn cymryd rhan yng Nghwpan y Byd. Mae’n anghywir i ddweud fy mod i wedi bod yn disgwyl am hyn gydol fy mywyd, achos doeddwn i erioed wedi dychmygu’r ffasiwn beth. Ond mi’r ydw i’n teimlo y bydda i wedi cyrraedd ryw gopa. Ar ôl gwylio Caerdydd yn ffeinal Cwpan FA Lloegr, a Chymru yn Euro 2016, dim ond un peth oedd ar ôl i fi weld. A dyma ni.