Mae Golwg wedi dymchwel y wal dalu ar gyfer y golofn hon, er mwyn i bawb gael blas ar arlwy’r cylchgrawn…
Tri o’r gloch y bore, a dwi methu cysgu dim,
Tri o’r gloch y bore, a dwi isio chdi fan hyn
Mae hanner geiriau Sobin yn wir. Dydw i’n sicr ddim isio chdi fan hyn – dwi’n mwynhau cael gwely i’m hun. Ond fe’r oeddwn i ar effro am dri o’r gloch y bore ‘ma, y noson troi’r clociau. Yn anffodus i fi, mae hyn yn ddigwyddiad digon cyffredin.
Dw i’n gysgwr go ddiawledig a wastad wedi bod. Fydda i’n licio meddwl fy mod i’n berson bora, ond fel rheol mater o ddeffro mor gynnar ydi hi nad oes pwynt ceisio cysgu wedyn, a threulio’r pnawn ddim yn rhy siŵr be sy’n digwydd. Dydi trafferthion cysgu ddim yn anarferol ymhlith y boblogaeth a dwi’n un o’r rhai sy’n dioddef waethaf.
Ro’n i’n meddwl fy mod i wedi dod o hyd i’r allwedd rai blynyddoedd yn ôl i ddelio â hyn. Mae rhai pobl o’r farn fod gadael i gi gysgu’n y gwely’n ciwt, ac eraill ei fod yn droëdig, a doedd gen i fyth fwriad i ganiatáu’r peth. Ond dyna ddigwyddodd rai misoedd ar ôl ei gael, wrth iddo sleifio fyny cyn cael ei roi yn y gegin am y nos, a chyfarth i’m deffro’n y bore bach yn “isio mynd allan” dim ond i redeg fyny’r grisiau a setlo. Ildiais yn y diwedd, a bu i fy nghwsg wella’n sylweddol.
Er, roedd hwnnw hefyd yn gyfnod lle ro’n i’n dioddef o anemia gwael – i’r graddau roedd fy nghyfrif celloedd gwaed coch yn llai na hanner yr isafswm a ddisgwylir i ddyn. Erbyn hyn dwi wedi dallt na’r gwellhad gorau i insomnia ydi anemia difrifol. Fyddwn i fodd bynnag ddim yn argymell y posibiliad o fethiant y galon fel y ffordd orau o ddelio â’r peth. O leia mae’r ci’n hapus iddo fy nhwyllo i feddwl na fo oedd yn gwneud y job, ac nid fy niffyg gwaed.
Efallai ei fod yn helpu rywfaint, chwarae teg. Arferai gymryd tair awr dda imi lwyddo cyrraedd byd breuddwydion, sydd wedi lleihau’n arw erbyn hyn. Ond eto mae’n tarfu arnaf. Mae’r demtasiwn bob tro’n gryf i fynd ar y ffôn a busnesu ar beth sy’n digwydd ym mherfeddion nos a chithau heb ddim arall i’w wneud. Mae’n teimlo’n well, rywsut, sbio pwy sydd hefyd yn bwrw golwg ar Facebook Messenger ym mherfeddion y bore, yn union yr un sefyllfa â mi. Er, fel arfer Awstraliaid y gwnes i gwrdd â nhw dair blynedd yn ôl sydd ar-lein!
Hwyrach na’r ffordd ymlaen ydi fel rŵan, gwneud y golofn wythnosol, achos dwi’n teimlo fy hun yn blino wrth wneud. Efallai â i yn ôl i’r gwely rŵan – a chael fy nghadw’n effro’n poeni bod ei darllen yn cael yr un effaith â’i hysgrifennu!