Mae Clwb Criced Morgannwg yn dweud eu bod nhw’n “deall” penderfyniad y bowliwr cyflym Michael Hogan i ymuno â Chaint, er ei fod e wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o’r gêm sirol ar ddiwedd y tymor hwn.

Bydd y chwaraewr, sy’n enedigol o Awstralia ac sydd wedi dychwelyd i’w famwlad yr wythnos hon, yn ymuno â’r sir yn Lloegr ar gytundeb blwyddyn yn 2023, ac yn hyfforddi a mentora chwaraewyr eraill y sir.

Roedd disgwyl iddo ddychwelyd i Awstralia’n barhaol a chwarae criced lleol ar ôl degawd gyda Morgannwg, lle chwaraeodd e mewn 274 o gemau a chipio 654 o wicedi.

“Ro’n i wedi llwyr fwriadu ymddeol, ond wedyn daeth y cyfle yn annisgwyl i chwarae am flwyddyn arall a magu rhywfaint o brofiad yn hyfforddi a mentora mewn amgylchfyd arall, ac roedd yn un nad oeddwn i’n gallu ei wrthod,” meddai Michael Hogan.

“Dw i wedi bod wrth fy modd yn ystod fy amser ym Morgannwg, ond mae gweld ffordd wahanol o wneud pethau ar y cae ac oddi arno yn rhywbeth dw i wedi cyffroi yn ei gylch.”

‘Rhyfedd’

“Bydd hi’n rhyfedd gweld Michael yn chwarae yn rhywle arall, ond rydym yn deall ei ddyhead i ehangu ei orwelion y tu allan i Gymru cyn cymryd ei gamau nesaf,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Mae Michael wedi bod yn wych i Forgannwg dros y blynyddoedd, ac rydym ond yn dymuno’r gorau iddo yn ei ymdrechion ar y cae ac oddi arno.”

Derbyn Michael Hogan i Oriel Enwogion Morgannwg

Alun Rhys Chivers

Fe gafwyd noson wobrwyo Clwb Criced Morgannwg ddechrau’r wythnos, ac roedd Alun Rhys Chivers yno

Dechrau’r ffarwél hir i Michael Hogan

Alun Rhys Chivers

Mae un o hoelion wyth Morgannwg yn ffarwelio wedi degawd o wasanaeth diwyd ar y cae criced