Mae un o hoelion wyth Morgannwg yn ffarwelio wedi degawd o wasanaeth diwyd ar y cae criced…

Ar derfyn y tymor criced fis Medi eleni bydd Michael Hogan yn ymddeol.

Bydd y bowliwr cyflym 41 oed wedi cwblhau deg tymor gyda Chlwb Criced Morgannwg. Ac yntau’n dathlu ei flwyddyn dysteb, a gafodd ei gohirio ddwywaith yn sgil Covid-19, mae’n dymor mawr i’r Awstraliad fu’n chwarae ar basport Prydeinig.