Ddechrau’r wythnos roedd ymgyrchwyr yn croesawu’r pecyn o fesurau newydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag effaith negyddol ail gartrefi ar rai o ardaloedd mwyaf poblogaidd y wlad.

Yn ôl Rhys Tudur, cyfreithiwr ac ymgyrchydd gyda grŵp Hawl i Fyw Adra a chynghorydd sir Plaid Cymru dros ward Llanystumdwy, dyma’r “peth mwyaf arloesol mae unrhyw lywodraeth wedi’i wneud yn y maes yma efo ail dai ers degawdau”.