Mynd ag arian o gyllideb Llywodraeth Cymru i dalu am ryfel Wcráin, heb ofyn caniatâd – dyna’r enghraifft ddiweddara’ o Lywodraeth San Steffan yn tanseilio datganoli. Yn ôl Ifan Morgan Jones, mae’n argoel o’r hyn sydd i ddod…
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn sefyllfa i danseilio datganoli fel y mynnan nhw a gwneud hynny heb i neb y tu hwnt i drydarwyr gwleidyddol Cymru sylwi… yn y lle cynta’ rhaid i Lywodraeth Cymru ffeindio rhyw ffordd o dynnu sylw a thanio cefnogwyr datganoli yng Nghymru i fod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd. Ac wedyn eu hysbrydoli i weithredu ar hynny yn y bwth pleidleisio, o ran protest neu beth bynnag sy’n ei gwneud hi’n rhy ddrud yn wleidyddol i Lywodraeth y DU ddileu datganoli. Fel arall, bydd datganoli’n marw o dipyn i beth.” (nation.cymru)
I John Dixon, mae angen newid trefn y Deyrnas Unedig ei hun i atal hyn rhag digwydd…
“Y broblem gyda datganoli, yn awr ac erioed, yw fod grym yn cael ei ddatganoli o fewn gwladwriaeth unedol sydd â’i chyfansoddiad wedi ei seilio ar y gred fod Duw wedi rhoi’r holl rym yn nwylo’r frenhiniaeth sy’n caniatáu i senedd ei weinyddu trwy drefniant tros dro. Mae hynny’n golygu mai dim ond cael ei fenthyca y mae grym a bod modd wastad i’w dynnu yn ôl, rhywbeth y mae llywodraeth Johnson yn ei wneud yn fwy a mwy aml…” (borthlas.blogspot.com)
Yn yr Alban, mae yna wedd arall i’r un ddadl, wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wrthod yr hawl i’r bobol gael ail bleidlais ar annibyniaeth…
“Nid ‘Gwell gyda’n Gilydd’ yw’r ddadl bellach, nid pregethu am ‘gyfuno a rhannu’ neu hyd yn oed gynnig cysur economaidd ‘ysgwyddau llydan’. Dim o hynna. Dim hyd yn oed dadlau ‘Nid dyma’r amser’. Mae bellach yn fater o glodfori’r safbwynt na fydd yna fyth amser na lle ar gyfer pleidlais, byth bythoedd. Yn y bôn, maen nhw’n dathlu eu bod yn mygu democratiaeth yn dragwyddol.” (Mike Small ar bellacaledonia.org)
Mae Dafydd Glyn Jones wedi cael ei gynhyrfu o weld fersiwn o’r un agweddau mewn llyfr newydd gan yr hanner Cymro, Simon Jenkins…
“Yr hyn a wna pobl fel Simon Jenkins yw… ymosod ar unrhyw hunaniaethau heblaw’r un Seisnig yng ngwledydd Prydain heddiw ac, wrth gwrs, ymosod yn arbennig ar y Gymraeg. Cyflwr seicolegol yw gwrth-Gymreigrwydd, yn effeithio ar rai categorïau o bobl yn fwy na’i gilydd. Mae digon o Gymry, Cymraeg a di-Gymraeg, yn ei gael yn ddrwg… Dosbarth arall lle mae’n taro’n drwm yw academwyr a deallusion Seisnig, yn enwedig rhai o’r Chwith, pobl flaengar a goleuedig yn eu golwg eu hunain. Ie, pobl y Guardian…” (glynadda.wordpress.com)
A gwedd arall eto ar yr un agweddau y mae Gruffydd Meredith yn eu gweld mewn erthygl wadd ar jacothenorth.net yn trafod mewnlifiad a’r farchnad dai…
“Byddwn yn gyson (ac yn gywir) yn clywed protestio yn erbyn trefedigaethu ac imperialaeth yn erbyn gwledydd a phobol ledled y byd… eto, yn ôl rhai, mae’n gwbl dderbyniol i hyn ddigwydd yng Nghymru ac, os byddwn yn ceisio rheoli’r broblem, ryden ni rhywsut yn eithafwyr cul… y rhai sy’n gwrthwynebu rheolaeth ar hyn ac yn cefnogi trefedigaethu gorfodol yw’r rhai sy’n gwthio eithafiaeth gul a pheryglus. Mae ganddo ni ddinasyddion Cymru hefyd, pwy bynnag a ble bynnag ydyn ni yng Nghymru a beth bynnag ein cefndir a’n gwreiddiau, yr hawl i beidio â chael ein trefedigaethu neu gael ein disodli o’n cymunedau a’n tir ein hunain.”