Bydd tîm criced Siroedd Cenedlaethol Cymru’n dechrau tymor 2023 gyda thaith i herio Berkshire yn y gystadleuaeth ugain pelawd genedlaethol.

Bydd y gêm honno’n cael ei chynnal ar Ebrill 16, yn ôl trefn y gemau sydd wedi cael ei chyhoeddi erbyn hyn, wrth i golwg360 edrych ymlaen at noddi Tegid Phillips, y Cymro Cymraeg o Gaerdydd sy’n fatiwr a throellwr.

Bydd eu gêm gartref gyntaf yn erbyn Swydd Buckingham yn Llys-faen ar Ebrill 30, cyn iddyn nhw deithio i Swydd Bedford y diwrnod canlynol.

Bydd Swydd Rydychen yn teithio i Bontarddulais ar Fai 7, gyda’r cae ger Abertawe’n cynnal gêm Siroedd Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf ers dwy flynedd.

Daeth Siroedd Cenedlaethol Cymru o fewn trwch blewyn i gyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth ugain pelawd am y tro cyntaf erioed yn 2022 ac maen nhw’n disgwyl cryn her wrth geisio ailadrodd y gamp eto yn 2023.

Serch hynny, mae cryn edrych ymlaen at y gystadleuaeth 50 pelawd, gyda’r tîm wedi datblygu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gan gyrraedd y rownd gyn-derfynol yn 2021 a rownd yr wyth olaf eleni.

Un o’u gwrthwynebwyr y llynedd oedd Swydd Stafford, fydd yn teithio i Bort Talbot i ddechrau’r ymgyrch, cyn i Siroedd Cenedlaethol Cymru deithio i Wiltshire a Dorset, fydd hefyd yn ymweld â chae Panteg, sy’n cael cynnal gêm am yr ail dymor yn olynol ar ôl cynnal gêm dridiau yn 2022.

Bydd Cernyw yn ymweld â’r Fenni yn nhrydedd rownd y gemau tridiau a’r gobaith yw y bydd dyrchafiad o fewn cyrraedd erbyn hynny, wrth iddyn nhw groesawu Sir Amwythig i Brymbo ger Wrecsam, sydd heb gynnal un o gemau Siroedd Cenedlaethol Cymru o’r blaen, er eu bod nhw wedi croesawu tîm Gogledd Cymru eleni.

Ar hyn o bryd, mae’n debygol y gallai un o gemau mwya’r tymor, gyda’r gwrthwynebwyr heb eu cadarnhau eto, gael ei chynnal yn y gorllewin, ar ôl dwy flynedd o gêm Siroedd Cenedlaethol Cymru yn erbyn Morgannwg yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.

Cyn dechrau’r tymor, bydd Cymru yn herio Gogledd Cymru yn Ynystawe ar Ebrill 2, gyda’r cae hwnnw’n cynnal gêm am y tro cyntaf wrth i’r clwb baratoi ar gyfer eu tymor cyntaf yn Uwch Gynghrair De Cymru.

Bydd Ynystawe hefyd yn croesawu’r gêm rhwng Tîm Uwch Gynghrair De Cymru a Siroedd Cenedlaethol Cymru ar Ebrill 8.

Sir Henffordd fydd y gwrthwynebwyr ar gyfer y gêm baratoadol olaf ar Ddydd Sul y Pasg, ond does dim cae wedi’i gadarnhau eto.

  • Yn ystod y tymor, gall darllenwyr golwg360 ddilyn hynt a helynt Siroedd Cenedlaethol Cymru drwy gyfres o golofnau arbennig i’r wefan hon gan Tegid Phillips.