Mae Clwb Pêl-droed Luton wedi cadarnhau eu bod nhw wedi rhoi caniatâd i’w rheolwr, y Cymro Nathan Jones, i siarad â Chlwb Pêl-droed Southampton mewn perthynas â swydd y rheolwr.

Byddan nhw’n trafod y swydd yn dilyn gêm Luton yn erbyn Stoke fory (nos Fawrth, Tachwedd 8).

Mae Luton yn dweud bod Southampton wedi gwneud cais i gynnal cyfweliad “yn y modd cywir”, gan ddweud eu bod nhw’n “ddiolchgar” am hynny a bod y sefyllfa’n un “gyfeillgar dros ben” rhyngddyn nhw, Southampton a Nathan Jones.

Mae Luton yn annog y cefnogwyr fydd yn teithio i Stoke gefnogi’r tîm a Nathan Jones.

Dywed Luton na fyddan nhw’n gwneud sylw pellach tan ddiwedd y broses.

Daw hyn ar ôl i Ralph Hasenhuttl gael ei ddiswyddo gan Southampton, sy’n ddeunawfed yn Uwch Gynghrair Lloegr, gyda dim ond 12 o bwyntiau allan o 14 o gemau.