Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i flaenoriaethu iechyd meddwl yn y canolbarth.
Daw hyn yn sgil cyhoeddi data ynghylch nifer y bobol sy’n lladd eu hunain ym Mhowys a Cheredigion.
Ceredigion sydd â’r gyfradd uchaf ar draws y Deyrnas Unedig – 20.1 ym mhob 100,000 o bobol, i fyny o 18.2 yn 2019.
15.8 yw’r gyfradd ym Mhowys.
Y gyfradd drwy Gymru a Lloegr gyda’i gilydd yw 10.6 ym mhob 100,000 o bobol.
Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn tynnu sylw at y ffigurau yn y gobaith o ddarbwyllo Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn “gwasanaeth iechyd meddwl gwirioneddol 24 awr”.
‘Trasig’
Yn ôl Jane Dodds, mae’r ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi’n “drasig, yn enwedig cymaint yn uwch mae canolbarth Cymru o gymharu â gweddill Cymru a Lloegr”.
“Mae pob un o’r marwolaethau hyn yn drasiedi sy’n difetha teuluoedd, ffrindiau a chymunedau,” meddai.
“Dydy hunanladdiad ddim yn anochel, ac mae ymdrechion wedi’u gwneud i atal hunanladdiad, ond mae’n rhaid i ni edrych ar hunanladdiad fel problem iechyd cyhoeddus ddifrifol yn ein rhanbarth.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud popeth fedrwn ni i helpu unrhyw un yng nghanolbarth Cymru sy’n ei chael hi’n anodd efo meddwl am hunanladdiad ac sy’n teimlo nad oes dewis arall.
“Tra bod y data sydd wedi’i gyhoeddi heddiw’n dangos bod Powys a Cheredigion yn perfformio’n llawer gwaeth nag ardaloedd gwledig eraill, rydan ni’n gwbod o astudiaethau eraill fod y rhai sy’n dioddef o fod wedi’u hynysu mewn ardaloedd gwledig yn ogystal â’r rheiny sy’n ffermio yn fwy tebygol o ddioddef o iechyd meddwl gwael.
“Mae angen i ni sicrhau bod gan ganolbarth Cymru y gwasanaethau iechyd meddwl sydd eu hangen i ateb y galw ac i allu cyrraedd pobol y tu allan i’r trefi mawr.”
Mae Jane Dodds yn dweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i atal argyfwng ymhlith pobol ac i sicrhau bod iechyd meddwl yn cael ei drin yn yr un modd â iechyd corfforol.
“Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n parhau i alw am greu gwasanaeth iechyd meddwl 24/7 yng Nghymru, ochr yn ochr â chynyddu arian tuag at wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru,” meddai.
“Rydyn ni hefyd eisiau gweld Llywodraeth Cymru’n gwneud mwy i gydweithio â sefydliadau gwirfoddol sy’n cydweithio â iechyd meddwl a’u cefnogi, gan gynnwys Sefydliad DPJ neu grŵp Walking Men of Mid Wales sydd wedi’i sefydlu yn y Drenewydd.”