Bydd Siemens Healthineers, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, yn lansio canolfan ragoriaeth ar gyfer gofal iechyd yn Llanberis, gan ddod â buddsoddiad mewn ymchwil a datblygiad gwerth miliynau o bunnoedd a sicrhau swyddi hirdymor o ansawdd uchel a chyflogau uwch nag arfer.
Byddan nhw’n cyfuno eu gweithrediadau byd-eang yn cynhyrchu technoleg dadansoddi gwaed, IMMULITE®, a gaiff ei defnyddio’n fyd-eang i roi diagnosis o gyflyrau meddygol, yn eu safle yng Ngwynedd.
Bydd y buddsoddiad hwn yn trawsnewid y safle yn gyfleuster ymchwil a datblygu ar gyfer diagnosteg, gan alluogi i gynhyrchion diagnostig manwl gwell gael eu datblygu i’w defnyddio i sicrhau’r gofal iechyd gorau posib i gleifion.
Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru, a bydd Siemens Healthineers yn Llanberis yn diogelu cannoedd o swyddi o ansawdd uchel, gan gynnwys creu bron 100 swydd newydd, gyda’r cyflog cyfartalog gryn dipyn yn uwch na’r cyfartalog ar gyfer yr ardal.
Mae’r buddsoddiad i sefydlu canolfan ragoriaeth ar gyfer ymchwil a datblygiad a gweithgynhyrchu yn y gwyddorau iechyd yn alinio â’r Rhaglen Lywodraethu, sydd am adeiladu economi yn seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.
Gwaith ‘hanfodol’
“Rwyf wrth fy modd cyhoeddi’r buddsoddiad sylweddol hwn, gyda Siemens Healthineers, mewn canolfan ragoriaeth newydd ar gyfer ymchwil a datblygu yng Nghymru,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennyd Economi Cymru.
“Diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru, rydyn ni wedi diogelu ac wedi creu cannoedd o swyddi newydd o ansawdd uchel yng Ngwynedd.
“Mae Siemens Healthineers yn Llanberis yn gyflogwr strategol bwysig ar gyfer y gogledd cyfan, ac mae’r buddsoddiad hwn yn dangos yr hyder enfawr yn economi Cymru.
“Mae’r contract economaidd rydyn ni wedi ei lofnodi gyda Siemens Healthineers yn diogelu’r cyfleuster ar gyfer y dyfodol, yn sefydlu cyfleuster arloesol ar gyfer ymchwil a datblygu, yn addo gwaith teg ac amgylchedd gweithio cynhwysol am ddegawdau lawer.”
“Mae labordai a chlinigau mewn dros 50 gwlad o amgylch y byd yn dibynnu ar yr adweithredyddion IMMULITE rydyn ni’n eu cynhyrchu yn Llanberis, gan gynnwys dros 100 o gyflyrau iechyd a 570 o brofion alergedd,” meddai’r Athro Fraser Logue, is-lywydd a rheolwr gyfarwyddwr Siemens Healthineers yn Llanberis.
“Mae’r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn dangos pa mor hanfodol yw’r gwaith mae ein gweithlu presennol o dros 400 o gydweithwyr yn ei wneud, a bydd yn ein galluogi i fwrw ymlaen â’n cynlluniau i fuddsoddi yn y safle.
“Bydd bron 100 o swyddi ar gyfer gweithwyr medrus iawn yn cael eu creu, wrth inni wireddu ein huchelgais cyffredin i drawsnewid Siemens Healthineers yn Llanberis yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer gweithgynhyrchu ac ymchwil a datblygu ym maes diagnosteg labordy.”