Fe fydd cyhoeddiad Banc Lloegr fod cyfraddau llog yn cynyddu i 3% yn “effeithio pob rhan o’r economi”, yn ôl yr economegydd Dr Edward Jones.

Daw hyn wrth i’r Deyrnas Unedig wynebu’r cyfnod hiraf o ddirwasgiad ers i gofnodion dibynadwy ddechrau.

Mae disgwyl i berchnogion tai wynebu’r cynnydd unigol mwyaf ar eu biliau morgais ers yr 1980au.

Bydd cyfradd sylfaenol y Banc yn codi i 3% o 2.25%, y lefel uchaf ers 14 mlynedd, ac mae rhybudd fod cynnydd pellach yn debygol.

Fe fydd y cynnydd hwn yn gosod £3,000 ychwanegol y flwyddyn ar filiau morgais y cartrefi hynny sydd ar fin adnewyddu eu morgeisi, meddai’r Banc.

Rhybuddia’r Banc hefyd y gallai’r Deyrnas Unedig symud tuag at y dirwasgiad hiraf ers i gofnodion dibynadwy ddechrau yn y 1920au.

Gallai cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) grebachu ym mhob chwarter am ddwy flynedd, gyda thwf ond yn dod yn ôl yng nghanol 2024.

‘Dyw hon ddim yn sefyllfa syml’

“Yn anffodus, mae’r cynnydd yma’n mynd i effeithio pob rhan o’r economi,” meddai Dr Edward Jones wrth golwg360.

“Busnesau, pobol gyffredin, pobol sydd â morgeisi neu gardiau credyd, unrhyw berson sydd â dyled, mi fyddan nhw i gyd yn cael eu dylanwadu gan benderfyniad heddiw.

“Fe fydd y rheini sydd ar forgeisi variable yn teimlo effaith hyn yn syth, fe fydd yn codi costau ariannu’r ddyled, y morgais, felly mae’r teuluoedd sydd eisoes yn dioddef yn sgil yr argyfwng costau byw yn mynd i’w deimlo fo’n llawer anoddach oherwydd yn barod mae arian yn dynn.

“Yn anffodus dyw hon ddim yn sefyllfa syml, mae yna bethau sy’n digwydd yn rhyngwladol megis y rhyfel yn Wcráin a’r ffaith ein bod ni’n dod allan o gyfnod covid sy’n cael effaith.

“Mae’r rhain yn bethau sy’n cael effaith ar draws y byd ac wedi achosi economi’r byd i arafu.

“Rydan ni’n gweld argyfyngau mewn economïau ar draws Ewrop, America ac mae yna arafu’n digwydd yn Asia hefyd.

“Felly tydi’r sefyllfa ddim yn unigryw i Brydain.

“Yn anffodus, beth sydd yn unigryw i Brydain yw’r ffaith ein bod ni wedi cael ambell i bolisi anghywir gan y llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi cael effaith negyddol ar yr economi.

“Mae Liz Truss â’i mini-budget yn dod i’r meddwl yn syth, fe gafodd hwnna effaith negyddol ar yr economi.

“Os ydi rhywun hefyd yn meddwl am Brexit, mae hwnna wedi cael effaith negyddol ar fasnach.

“Os ydan ni’n cymharu ffigyrau masnach Prydain gyda gwledydd Ewrop, wrth gwrs fe wnaeth y ddau ddisgyn yn ystod covid, ond ers covid mae lefelau masnach gwledydd yn ôl i ryw fath o lefel arferol tra bod lefelau masnach Prydain wedi aros yn isel, a dw i ddim yn gweld hwnna yn codi am beth amser.”

Banc Lloegr “y tu ôl i’r gad”

Awgryma Dr Edward Jones fod Banc Lloegr wedi bod “y tu ôl i’r gad” o’i gymharu ag economïau Ewrop a’r Unol Daleithiau wrth godi cyfraddau llog.

“Mae Prydain, Ewrop ac America wedi arfer efo cyfraddau llog isel, agos iawn i 0%,” meddai.

“Ond rydan ni’n gweld y cynnydd cyflym yma rŵan.

“Os ydan ni’n meddwl am America fel enghraifft, fe ddaru nhw’r wythnos yma godi eu cyfradd llog nhw 0.75% a dyna’r pedwerydd cynnydd o’r lefel yna maen nhw wedi’i wneud dros y pedwar mis diwethaf, dw i’n credu.

“Felly mae’r cyfraddau llog yn codi’n gyflym iawn ar draws y byd, dydy hynny ddim yn unigryw i Brydain.

“Os rywbeth, mae Prydain o bosib wedi bod tu ôl y gad efo codi llogau.

“Os ydan ni’n meddwl am Ewrop ac America eto, maen nhw wedi bod yn reit gyflym wrth godi llogau ac mae hwnna i weld wedi cael effaith ar chwyddiant yn y gwledydd yna.

“Dw i ddim yn dweud eu bod nhw wedi concro chwyddiant o bell ffordd, ond yn sicr mae o i weld wedi cael effaith.

“Felly mi fasa chi yn gallu dadlau bod Banc Lloegr wedi bod tu ôl y gad efo hyn.

“Ond yn anffodus mae hi wedi bod yn sefyllfa ryfedd ym Mhrydain ers peth amser, lle dydyn ni ddim wedi gweld y llywodraeth a Banc Lloegr yn gweithio gyda’i gilydd am wahanol resymau.

“Mae hynny wedi gwneud y sefyllfa’n anodd.

“Y gobaith ydi, efo’r Canghellor newydd [Jeremy Hunt] a Rishi Sunak [y Prif Weinidog] yn eu swyddi newydd y bydd yna fwy o siarad rhwng y llywodraeth a Banc Lloegr, ac y bydd hynny yn gwneud pethau’n haws o ran cyflwyno polisïau i daclo’r argyfwng yma.”