Mae Kevin Brennan, Aelod Seneddol Llafur tros Orllewin Caerdydd, wedi cymharu tro pedol diweddaraf Rishi Sunak ag addewid i brynu peint i ffrind mewn tafarn cyn dewis peidio.

Daw hyn ar ôl i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ddweud y bydd yn cynnal arolwg o addewidion arweinyddol a wnaeth wrth frwydro yn erbyn Liz Truss, ei ragflaenydd barodd chwe wythnos yn unig yn y swydd, er mwyn penderfynu pa rai i’w cadw a pha rai i gefnu arnyn nhw.

Pwrpas yr adolygiad, yn ôl ei lefarydd, yw penderfynu “ai nawr yw’r amser cywir i’w cyflwyno nhw”.

Cyhoeddodd e ddegau o bolisïau yn ystod y ras yn erbyn Liz Truss, gan gynnwys torri trethi, ond mae ei lefarydd yn dweud bod y “cyd-destun” gwleidyddol wedi newid erbyn hyn, a bod “angen cymryd peth amser i sicrhau beth mae modd ei gyflwyno a beth sy’n bosib”.

Wnaeth Rishi Sunak ddim cyflwyno unrhyw addewidion yn y ras i olynu Liz Truss.

Ar y dechrau, fe wnaeth e addo dileu’r gyfradd o 5% ar y Dreth Ar Werth (TAW) ar filiau ynni cartrefi, a gostwng cyfradd sylfaenol y dreth incwm o 20% i 16% cyn diwedd y senedd nesaf.

Addewid arall oedd cadw’r cynnydd o 1.25c ym mhob punt o Yswiriant Gwladol, fydd yn cael ei ddileu yr wythnos hon yn dilyn cyllideb fechan Liz Truss.

Ac un arall oedd gosod uchafswm ar nifer y ffoaduriaid sy’n dod i’r Deyrnas Unedig bob blwyddyn, tynhau’r meini prawf ar gyfer ceiswyr lloches, ac atal cymorth ariannol i wledydd sy’n gwrthod derbyn ffoaduriaid.

Ymhlith ei addewidion eraill oedd cwtogi ar restrau aros ar gyfer ysbytai, atal gosod paneli solar ar y ffermydd gorau, gwahardd streiciau gan wasanaethau cyhoeddus ac atal traffyrdd clyfar lle caiff technoleg ei defnyddio i fesur tagfeydd.

Mae lle i gredu bod y tro pedol yn ymwneud â chynlluniau i gynyddu trethi ymhen rhai wythnosau.

Ymateb o Gymru

“Felly mae Sunak am ddileu addewidion polisi ond mae’n dal i gefnogi eu sentiment,” meddai Kevin Brennan ar Twitter.

“Mae’n cyfieithu i ‘Wnes i addo prynu peint i ti, ond dwi ddim yn mynd i wneud – er ’mod i wedi hoffi addo – ond dwyt ti ddim am gael un – gyda llaw, dw i’n foi neis am fod eisiau prynu peint i ti.”