Mae pryderon y gallai Ynys Môn droi’n “Fanceinion Fach ger y lli” sydd “ond ar gael i filiwnyddion” wedi cael eu codi yn ystod cyfarfod cynllunio.

Cafodd y sylwadau eu gwneud gan y Cynghorydd Carwyn Jones yn ystod trafodaeth ynghylch cais i ddymchwel, addasu ac ehangu tŷ dwy ystafell wely yn Llanddona.

Yn dilyn trafodaeth, cytunodd cynghorwyr i ymweld eilwaith â Tan Yr Allt Bach.

Roedd cais llawn gan Phil Smith wedi’i dderbyn trwy law’r asiant Richard Sandbach o gwmni JAR Architecture & Design Ltd.

Eglurodd swyddog cynllunio’r Cyngor y byddai’r cynlluniau’n cynnwys dymchwel estyniad UPVc, ac adeiladu estyniad storfa un llawr gwydr â thalcen, patio newydd â storfa, ac adeilad dau lawr â ffenest gyda lle i gysgu.

Trafododd y pwyllgor cynllunio a yw’r cais yn cydymffurfio â pholisïau presennol, ac a fyddai’r datblygiad yn cael unrhyw effaith negyddol ar yr ardal neu eiddo cyfagos.

Cafodd y mater ei drafod mewn cyfarfod cynllunio ar Hydref 5, a chafwyd ymweliad rhithiol â’r safle gan aelodau’r pwyllgor ar Hydref 19.

Pryderon

Cafodd pryderon eu codi ynghylch safle a dyluniad y datblygiad, a’i effaith ar yr awyr dywyll.

Mae hefyd mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Byddai’r datblygiad modern hefyd yn cael ei weld o draeth Llanddona ar lanw isel, mae’n cael ei ystyried yn ddatblygiad ‘sylweddol’ ond yn un derbyniol yn nhermau polisi.

Mewn datganiad tair munud a gafodd ei ddarllen gan swyddog ar ran Richard Sandbach, dywedodd y sawl sy’n gwneud cais mai unig bwrpas y gwaith adnewyddu yw gwella “cyfleusterau” y tŷ a’i “alinio ag anghenion y teulu”, gan eu bod nhw wedi dod yn nain a thaid yn gynharach eleni.

Roedden nhw hefyd wedi addasu’r cynlluniau yn dilyn yr ymgynghoriad, gan honni nad oedd egwyddorion ac elfennau’r dyluniad “yn andwyol” i’r gymuned leol, a’i fod yn ymyrraeth “gymhedrol”.

Fodd bynnag, cafodd y pwyllgor wybod am y mater ar gais tri aelod lleol.

Fe wnaeth y Cynghorydd Alun Roberts ddadlau bod yna “deimladau cryf” ynghylch y datblygiad gan holl aelodau’r cyngor cymuned lleol a thrigolion sy’n teimlo’i fod yn “andwyol i’r pentref”.

Mae e ar “gornel beryglus” sy’n golygu bod mwy o draffig “yn effeithio rhwydwaith y priffyrdd”.

Roedd pryderon y gallai’r eiddo gael ei ddatblygu’n ddau eiddo neu gael ei ddefnyddio fel tŷ haf, y gallai achosi rhagor o lygredd, ac y gallai gael effaith ar natur mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Mae’r ffordd tuag at y tŷ hefyd yn serth, meddai, ac mae materion traffig eisoes yn cael eu hadrodd o ran camperfaniau, ac mae’n teimlo nad yw swyddogion wedi mynd i’r afael â’r mater yn ymwneud ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

‘Ofnadwy’

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones fod y ffordd yn arwain at y safle ar gyfer yr ymweliad safle’n “ofnadwy”.

“Pe baech chi’n medru troi’r cloc yn ôl, wrth sefyll yno ar y traeth mi fyddech chi wedi gweld tai lleol, yn llawn cymeriad, gyda ffermdai bach Cymreig yno, roedd fy nain yn byw yno,” meddai.

“Bydd hwn ger eich bron heddiw’n trawsnewid arfordir Ynys Môn a threftadaeth Gymreig tai lleol.

“Mae hi am fod yn Fanceinion Fach yn fuan, mae hyn yn gosod cynsail, mi fydd yn Abersoch arall cyn i ni droi rownd.

“Mi fydd yn sefyll allan fel peth hyll mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac fel y dywedodd y cynghorydd rydyn ni wedi’n siomi nad oes yna sylwadau ar hynny.

“Yr hyn sydd ei angen arnom yn lleol mewn lle fel Llanddona, fel pob man arall, ydi tai cynaliadwy ar gyfer y dyfodol lle gall pobol leol eu prynu nhw i fagu teuluoedd.

“Pe bai hwn yn cael ei adeiladu a phe bai byth yn mynd ar y farchnad, mi fydd o’n dŷ gwerth miliwn o bunnau, tu hwnt i afael unrhyw un sy’n gweithio yn yr ardal leol, yn yr ysgol leol ym Miwmares, Siop Ena neu’n gweini yn y Bulkeley.

“Mi fyddai hyn yn gosod cynsail fod arfordir Ynys Môn ar gyfer aml-filiwnyddion, nhw yn unig fyddai’n gallu fforddio’r tai.

“Fel arfer, ni fyddai gobaith o adeiladu eiddo newydd ar yr arfordir mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol fel hyn, ond os ydych chi’n rhoi cyswllt gwydr fel hyn, gallwch chi gael dau mewn un – dw i’n gweld hwn fel cais i adeiladu tŷ newydd sbon, efo’r esgus o gyswllt gwydr.”

Dywedodd ei fod yn poeni y gellid defnyddio un rhan o’r tŷ fel tŷ, ac un rhan fel llety gwyliau, a’r effaith ar yr awyr dywyll, gan fod Ynys Môn yn cael ei hystyried yn un o ardaloedd gorau Ewrop ar gyfer hyn.

‘Cymdeimlad’

Dywedodd y Cynghorydd Ken Taylor ei fod yn cydymdeimlo â’r hyn ddywedodd y cynghorwyr.

“Does gennym ni ddim syniad y bydd hwn yn cael ei ddefnyddio fel tŷ haf ymhen dwy neu dair blynedd, y cyfan fedrwn ni ei wneud ydi dilyn y polisïau cynllunio,” meddai.

“Dw i wir yn cydymdeimlo hefo’r aelodau lleol a’r cyngor cymuned ond o edrych ar y cais hwn, o ystyried fod hwn yn estyniad sy’n disodli adeilad presennol, mae nifer o faterion yn codi sy’n bethau fedrwn ni eu hystyried, ond fod rhaid gwaith ar sail polisi.”

Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Evans am ail ymweliad â’r safle, ar adeg pan gaiff ei weld gan y cyhoedd, gan gynnig ail ymweliad safle yn y cnawd.

Dywedodd y Cynghorydd Ken Taylor ei fod “wedi gweld popeth oedd angen ei weld yn ystod yr ymweliad blaenorol”, gan ychwanegu bod “y tŷ eisoes wedi’i werthu am bris uchel”.

“Mae’r swyddog awyr dywyll wedi mynegi pryderon a dydyn ni ddim wedi derbyn gwybodaeth gan y swyddog gwledig a’r mater o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol,” meddai’r Cynghorydd John Ifan Jones. “Felly efallai y dylid gohirio’r cais?”

Cytunodd y swyddog cynllunio fod hynny’n “bwynt teg”, gan ychwanegu mai “yr arbenigwr Ed Henderson yw’r swyddog perthnasol, oedd wedi cyflwyno sylwadau” ac felly nad oedd yn teimlo “y cewch chi ymateb gwell”.

Ond mynnodd y Cynghorydd Jeff Evans ei bod hi’n “briodol” cynnig ail ymweliad i’r pwyllgor, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones.