Roedd sôn rhai blynyddoedd yn ôl am godi trydedd bont i Ynys Môn.

Ers Brexit a’r lleihad yn y traffig lorïau trwm o Iwerddon, fe fu llai o achos tros godi trydedd bont bellach.

Ond rŵan mae Pont Menai wedi cau oherwydd problemau diogelwch ar y bont, fydd hi ddim yn agor eto nes bod y problemau diogelwch wedi cael eu datrys.

Ydych chi’n meddwl y dylid agor pont arall? Rhowch eich barn isod.

“Cefnogwch ni” yw neges busnesau ger Pont Menai

Dale Spridgeon, Gohebydd Democratiaeth Leol

Maen nhw’n dweud bod cau’r bont wedi cael effaith “ddinistriol” arnyn nhw

A fo ben bid gwynfanus?

Barry Thomas

“‘Fysa pobol Wcrain wrth eu boddau os mai’r oll oedd yn eu poeni nhw oedd cwpwl o oriau o draffig ar y ffordd adref’”

Cau Pont Menai “yn llawer mwy nag anghyfleustra”

“Un peth ydy bod yn ynys, peth arall ydy cael ein hynysu,” medd Rhun ap Iorwerth

Y Ceidwadwyr Cymreig yn mynnu atebion am Bont Menai

“Yn hytrach na rhoi’r dewis i bobol gynllunio ymlaen llaw, mae modurwyr nawr yn cael eu gorfodi i newid eu cynlluniau funud olaf”

Cau Pont Menai tan 2023 – tagfeydd traffig ar yr A55

Dim mynediad i un o’r ddwy bont sy’n cysylltu Môn gyda’r tir mawr