Mewn llythyr ar y cyd at y Prif Weinidog Mark Drakeford, mae Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, a Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn, wedi codi pryderon ynghylch effaith cau Pont Menai.
Cyflwynodd Sam Rowlands, Aelod Seneddol Gogledd Cymru, gwestiwn brys i’w ateb yn y Senedd.
Wrth wneud sylw, dywedodd Natasha Asghar ei bod hi wedi’i “synnu’n arw gyda’r newyddion y gallai Pont Menai gael ei chau am gyfnod o hyd at bedwar mis heb unrhyw rybudd”.
“Yn hytrach na rhoi’r dewis i bobol gynllunio ymlaen llaw, mae modurwyr nawr yn cael eu gorfodi i newid eu cynlluniau funud olaf a defnyddio Pont Britannia sydd ar gau yn gyson oherwydd gwyntoedd cryfion,” meddai.
“Rwy’n falch y bydd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad yfory, ond mae’r ffaith syfrdanol yn aros fod gweinidogion Llafur wedi ceisio gweithredu fel hyn heb unrhyw graffu seneddol cyn i’r Ceidwadwyr Cymreig eu galw allan.
“Mae angen i weinidogion Llafur roi’r gorau i achosi hafoc a gweithio gyda modurwyr i sicrhau bod gan Gymru’r seilwaith sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif.”
Diffyg buddsoddi yn cael “effaith ddinistriol” ar Ynys Môn
“Mae penderfyniad sydyn Llywodraeth Cymru i gau Pont Menai – heb rybudd – am hyd at bedwar mis wedi fy syfrdanu a’m brawychu oherwydd gwendid strwythurol a achosir gan draffig trwm,” meddai Virginia Crosbie.
“Mae hon yn broblem y dylid bod wedi ei rhagweld.
“Ni ddylai’r bont erioed fod wedi cael mynd i gyflwr lle mae angen y math hwn o ymateb brys.
“Fis Mehefin y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, rewi pob prosiect adeiladu ffyrdd newydd i gynnal adolygiad.
“Mae eu hoedi a diffyg buddsoddiad yn ein seilwaith yn cael effaith ddinistriol ar Ynys Môn.
“Mae 46,000 o gerbydau’n croesi’r Fenai bob dydd ac mae Pont Menai yn rhan hollbwysig o’n hisadeiledd – yn enwedig i’r teuluoedd, gweithwyr a’n myfyrwyr sy’n cymudo dros y bont yn ddyddiol.
“Gyda Phont Britannia ar gau yn aml i gerbydau ag ochrau uchel oherwydd gwyntoedd cryfion bydd y symudiad hwn hefyd yn taro porthladd Caergybi a’n heconomi Ynys fregus.
“Mae hyn yn annerbyniol.
“Rwy’n gwneud popeth o fewn fy ngallu i ddod â swyddi a buddsoddiad i Ynys Môn ond mae’r ynys angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu cysylltiadau trafnidiaeth dda a dibynadwy er mwyn gwneud y cyfleoedd newydd hyn yn hyfyw i’n cymuned.”
Dim digon o resymeg
“Mae cau Pont Menai yn sydyn yn peri pryder mawr, ac mae’n siomedig nad yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi amlinellu digon o resymeg y tu ôl i’r rheswm dros y cau sydyn hwn,” meddai Sam Rowlands.
“Mae gofal iechyd, economi ac isadeiledd Gogledd Cymru wedi cael eu hanwybyddu ers gormod o amser. Nid moethau mo’r rhain, mae’r rhain yn angenrheidiol.
“Bydd cau Pont Menai yn sydyn yn ergyd enfawr i economi Ynys Môn, gan gyfyngu ar nifer y cerbydau a chynyddu tagfeydd.
“Dyna pam y codais gwestiwn brys ynglŷn â’r mater hwn ac rwy’n falch y bydd datganiad yn cael ei wneud yfory.”