Mae Aelodau’r Senedd wedi dod ynghyd i geisio codi £20,000 i helpu’r rhai sy’n amddiffyn Wcráin.

Y gobaith ydy codi digon o arian i brynu cerbyd er mwyn ei ddanfon, ynghyd â chyflenwadau meddygol, i helpu’r rhai sy’n amddiffyn y wlad ar y rheng flaen.

Mae’r ymgyrch wedi cael cefnogaeth gan aelodau o bob plaid yn San Steffan.

Hyd yn hyn, maen nhw wedi codi £900 ers i Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru sydd â chysylltiadau teuluol ag Wcráin, lansio’r dudalen yr wythnos ddiwethaf.

“Wrth i ymosodiad Putin ar Wcráin barhau, gyda thaflegrau’n ymosod ar sawl dinas gan ladd ac anafu dinasyddion, mae hi mor bwysig ag erioed ein bod ni yng Nghymru yn dangos ein solidariaeth tuag at bobol Wcráin,” meddai’r dudalen.

“Bydd y gaeaf yn gyfnod arbennig o anodd i Wcráin.

“Wrth i’r tywydd oer ddechrau, a chyda seilwaith y wlad dan ymosodiad, bydd pobol Wcráin angen mwy fyth o gymorth.

“Mae cynrychiolwyr o sawl plaid wleidyddol yn Senedd Cymru wedi dod ynghyd i godi arian ar gyfer cymorth ymarferol i’r rhai ar y rheng flaen, ac i yrru neges bod Cymru’n unedig yn ei chefnogaeth tuag at bobol Wcráin, sy’n parhau i wrthsefyll gweithredoedd llwfr gwladwriaeth derfysgol Putin yn ddewr.

“Y nod yw codi £20,000 i brynu cerbyd, ac yna danfon y cerbyd, ynghyd ag offer meddygol a deunyddiau, i’r rhai sy’n amddiffyn Wcráin yn ddewr.

“Bydd cynrychiolydd o bob plaid wleidyddol yn gwneud hyn.”

‘Siarad ag un llais’

“Dyw hi ddim yn aml iawn rydych chi’n gweld gwleidyddion yn dod at ei gilydd ac yn siarad gydag un llais,” meddai Alun Davies, Aelod Seneddol Llafur Blaenau Gwent, sy’n cyd-arwain yr ymgyrch gyda Mick Antoniw.

“Ond dyna be’ rydyn ni’n ei wneud ar hyn o bryd.

“Mae aelodau o bob plaid wleidyddol yn ein Senedd yn dod at ei gilydd i ofyn i chi gefnogi pobol Wcráin.”

“Mae pobol Wcráin angen eich cefnogaeth, dw i a holl Senedd Cymru yn cefnogi Wcráin,” meddai Mick Antoniw wedyn.

“Os ydych chi’n cefnogi Wcráin, os gwelwch yn dda gwnewch gyfraniad heddiw.”