Mae natur wrth-ddemocrataidd system San Steffan wedi cael ei harddangos i’r byd, yn ôl arweinydd Plaid Cymru o fewn y sefydliad hwnnw.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad mai Rishi Sunak yw arweinydd newydd y Ceidwadwyr, ac mai’r disgwyl yw mai fe fydd Prif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig, dywed Liz Saville Roberts nad oes ganddo “unrhyw fandad etholiadol”.

Daw’r cadarnhad ar ôl i Penny Mordaunt dynnu’n ôl o’r ras ar ôl ceisio denu digon o gefnogaeth, ddiwrnod ar ôl i Boris Johnson dynnu’n ôl hefyd.

Efallai y bydd penodi Rishi Sunak yn “lleddfu’r marchnadoedd ariannol yn y tymor byd”, meddai Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, ond mae’r blaid Dorïaidd dal wedi’i hollti’n garfanau.

“Mae natur wrth-ddemocrataidd system San Steffan wedi’i harddangos i’r byd. Nid oes gan Rishi Sunak unrhyw fandad etholiadol,” meddai.

“Mae democratiaeth yn mynnu Etholiad Cyffredinol.

“Efallai y bydd coroni Rishi Sunak yn lleddfu’r marchnadoedd ariannol yn y tymor byr, ond mae’r blaid Dorïaidd yn dal wedi’i hollti i garfanau a fydd yn brwydro am reolaeth gyda phleidleisiau hollbwysig.

“Yn fwy sylfaenol, mae’r argyfwng cronig o gamddefnyddio democratiaeth heb ei ddatrys o hyd.

“Nid oes ganddo unrhyw fandad etholiadol ar gyfer y mesurau llymder y mae’n bwriadu eu cyflwyno ar ein gwasanaethau cyhoeddus, sydd eisoes yn agos at gwympo ar ôl deuddeg mlynedd o gamreoli gan y Ceidwadwyr.

“Ni phleidleisiodd Cymru dros hyn yn 2019.

“Mae pobol Cymru yn haeddu cyfle i wrthod system bwdr San Steffan yn y blwch pleidleisio gydag etholiad cyffredinol.

“Dim ond Plaid Cymru all gynnig llais a gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwell i Gymru.”

‘Colli ffydd’

“Dros y saith mlynedd ddiwethaf mae’r Ceidwadwyr wedi trin y Deyrnas Unedig fel maenoriaeth i’w brwydrau mewnol, ac o ganlyniad mae’r wlad wedi dioddef dro ar ôl tro,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Dim Prif Weinidog neu Weinidog unigol yw’r broblem, ond y Blaid Geidwadol fel sefydliad sy’n parhau i roi ei lleisiant ei hun dros lesiant y wlad, ac fel sefydliad mor rhanedig fel nad ydy hi’n bosib iddyn nhw greu llywodraeth sy’n gweithio’n dda.

“Dangosodd Rishi Sunak dro ar ôl tro, drwy ei rôl fel Canghellor, nad oedd yn deall anghenion pobol gyffredin boed hynny wrth iddyn nhw dalu eu biliau gwresogi neu drio cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus hanfodol.

“Mae’r cyhoedd wedi colli ffydd yn y Ceidwadwyr a does gan Sunak ddim mandad gan y bobol, rydyn ni angen Etholiad Cyffredinol nawr er mwyn gadael y llanast tragwyddol hwn a rhoi dechrau newydd i’r wlad.”

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Jo Stevens, llefarydd Cymru yng nghabinet Llafur yn San Steffan: “Ni wnaeth neb bleidleisio dros hyn. Mae hi’n amser am etholiad cyffredinol.”

Yn ôl Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur yn San Steffan, “ni phleidleisiodd neb dros hyn”.

“Mae’n bryd cael etholiad cyffredinol,” meddai.

‘Ffrind i Gymru’

Ond yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, “fel ffrind i Gymru, mae Rishi yn deall yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu”.

“Mae’r Blaid Geidwadol Seneddol wedi amlygu eu ffydd yn Rishi Sunak i arwain y Llywodraeth, gan fynnu hyder ei gydweithwyr,” meddai.

“Mae gan y Llywodraeth agenda glir y mae angen iddi fwrw ati.

“Costau byw, y rhyfel yn Wcráin, rhoi’r Deyrnas Unedig ar lwybr twf a chyfleoedd wedi Covid.

“Dw i’n gwybod y bydd cydweithwyr yn San Steffan yn cydnabod yr angen gwirioneddol i ddod ynghyd a chyflawni dros bobol Cymru a’r Deyrnas Unedig.

“Fel ffrind i Gymru, mae Rishi yn deall yr heriau sy’n ei hwynebu, gyda biliau ynni uchel, chwyddiant uchel, a chyllidebau aelwydydd yn cael eu hymestyn i’r eithaf.

“Dw i’n edrych ymlaen at gydweithio ag ef er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hynny.

“Dylid dathlu hefyd ein bod ni’n croesawu Prif Weinidog Prydeinig-Asiaidd a Hindŵaidd cyntaf y Deyrnas Unedig, a hynny yn ystod Diwali.

“Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, dw i eisiau diolch i Boris a Penny, sydd gan gymaint i’w gynnig i’n plaid ac ein gwlad wrth fynd ymlaen.”

‘Y Prif Weinidog newydd, pwy bynnag y bydd, heb fandad i reoli’

Cadi Dafydd

“Mae mwy o ots ganddyn nhw gyd am ddyfodol eu plaid a’r ideoleg na dyfodol unrhyw un cyffredin,” medd Delyth Jewell am y Blaid Geidwadol