Fydd gan Brif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig ddim mandad i reoli, yn ôl y gwrthbleidiau.

Yn ôl Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, does dim modd rheoli’r Blaid Geidwadol gan eu bod nhw, a’u hideoleg, mor ranedig.

Rhaid cael etholiad cyffredinol, meddai cynrychiolydd Dwyrain De Cymru yn y Senedd, a hynny er mwyn cynyddu’r siawns o gael llywodraeth fyddai’n gwneud penderfyniadau “er mwyn pobol gyffredinol, nid jyst helpu pobol gyfoethog”.

Mae’r gefnogaeth tuag at y cyn-ganghellor Rishi Sunak yn parhau i dyfu, gyda 185 o Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi ei gefnogi’n gyhoeddus bellach.

Er hynny, mae Penny Mordaunt dal i drio ennill cefnogaeth Aelodau Seneddol fu’n cefnogi Boris Johnson yn wreiddiol.

Ar hyn o bryd, mae’r BBC ar ddeall bod 26 o Aelodau Seneddol yn ei chefnogi.

Rhaid i’r ymgeiswyr gael cefnogaeth 100 o Aelodau Seneddol Ceidwadol erbyn 2 o’r gloch brynhawn heddiw (dydd Llun, Hydref 24) er mwyn bod yn y ras i fod yn arweinydd.

‘Ffars’

Er bod Delyth Jewell yn croesawu’r ffaith na fydd Boris Johnson yn sefyll, dywed fod yr “holl beth wedi bod yn ffars”.

“Yn amlwg, dw i’n falch iawn bod Boris Johnson wedi camu’n ôl achos bydde fe wedi bod yn hollol anfaddeuol o anfoesol o’r Torïaid i adael i rywun gafodd ei gicio mas ryw wyth wythnos yn ôl, rhywbeth hurt o fuan, [yn ôl],” meddai wrth golwg360.

“Mae lot ohonyn nhw’n ceisio esgus nad oedd hynny wedi digwydd, maen nhw’n ceisio ailysgrifennu hanes, byddai hwnna wedi bod yn ofnadwy.

“Nawr mae’n edrych yn fwyfwy tebygol y byddan nhw’n coroni Prif Weinidog newydd, efallai o fewn heddiw, efallai Rishi Sunak fydd hwnna… ond dim ots os ydyn nhw’n gwneud hynna fel Aelodau Seneddol neu os ydy’r tiny cohort yma o aelodau cyffredin y Blaid Dorïaidd yn penderfynu – does gan y Prif Weinidog newydd yma ddim mandad.

“Mae’n rhaid i ni gael etholiad cyffredinol.

“Mae’n amlwg nawr nad ydy’r Blaid Dorïaidd yn governable.

“Maen nhw i gyd mewn factions bach, ac mae mwy o ots ganddyn nhw gyd am ddyfodol eu plaid nhw a pha fath o ideoleg ddylai redeg eu plaid nhw na dyfodol unrhyw un cyffredin yn yr ynysoedd hyn.

“Does dim ots ganddyn nhw o gwbl, dydyn nhw heb fod yn sôn am yr argyfwng costau byw, maen nhw jyst yn sôn am ddyfodol eu plaid nhw eu hunain.

“Dw i’n meddwl y byddai pobol gyffredin yn edrych ymlaen ar hyn ac yn meddwl pa mor out of touch ydy’r bobol yma.”

Galw am etholiad cyffredinol

Wrth alw am etholiad cyffredinol cynnar, ydy hi’n bosib y bydd yr ansefydlogrwydd, ac felly’r ansefydlogrwydd economaidd, yn gwaethygu neu’n parhau am amser hirach?

“Os ydyn ni’n edrych ar yr argyfwng sy’n wynebu pobol bob dydd, rydyn ni’n mynd mewn i’r gaeaf nawr ac rydyn ni’n gwybod o flaen llaw pa mor wael fydd e,” meddai Delyth Jewell.

“Mae pobol wedi bod yn sôn am blackouts, dydy hyn ddim yn rhywbeth ddylsa fod yn normal o gwbl. Mae pobol wir yn poeni os ydyn nhw’n mynd i oroesi, a sut maen nhw’n mynd i oroesi’r misoedd nesaf.

“Dw i’n meddwl, os oes yna unrhyw bosibilrwydd o gwbl o gael pobol mewn llywodraeth sy’n gweithio ar y cyd, sy’n gallu gwneud yn siŵr bod mwy o benderfyniadau’n cael eu gwneud i helpu pobol, yn lle jyst helpu pobol gyfoethog, mae hwnna’n gorfod bod yn beth da.

“Yn sicr o ran Plaid Cymru, bydde unrhyw siawns sydd gennym ni i wneud yn siŵr bod mwy o leisiau er budd ein cymunedau ni o ran Plaid Cymru yn San Steffan y gorau oll.

“Ar hyn o bryd, prin fawr o leisiau sydd yna sydd wir yn poeni am gymunedau ledled y wlad.”

‘Angen newid sylweddol’

Mewn darn ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig, mae Glyndwr Cennydd Jones yn dweud heddiw bod breuder strwythurol y Deyrnas Unedig yn galw am sgwrs am ddiwygio cyfansoddiadol.

“Rydych chi’n meddwl ei fod yn dod i ben, ond mae yna bennod newydd yn y chaos, mae pobol yn gweld, dim ots pwy ydy’r Prif Weinidog, dydy’r system yn San Steffan byth yn mynd i elwa pobol Cymru,” meddai Delyth Jewll wrth gytuno gyda’r alwad.

“Dim ots pa blaid Brydeinig fydd yn Rhif 10 Downing Street, nid pobol Cymru fydd ar flaen eu hagenda nhw.

“Mae angen annibyniaeth, dw i ddim yn gweld San Steffan fel dyfodol Cymru. Maen nhw i gyd yn edrych tu mewn, maen nhw’n obsessed gyda’u pleidiau nhw eu hunain.

“Mae angen newid syfrdanol, mae angen newid y system etholiadol yn San Steffan – rydyn ni angen cael gwared ar First Past the Post.

“Cymaint o bethau angen eu newid, ond dw i ddim yn gweld y byddai San Steffan, a phleidiau San Steffan, byth yn gwneud y newidiadau yma achos mae’r traddodiadau sydd yna er budd y pleidiau mawr.

“Dw i’n meddwl bod mwy o ots ganddyn nhw am hynny, yn anffodus, nag am bobol Cymru.”

‘Anghynaladwy’

Mae’r Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn galw am etholiad hefyd, gan ddadlau na fydd gan y Prif Weinidog newydd fandad.

“Mae aelodau elit pleidiau yn penderfynu ar arweinwyr newydd mewn gwladwriaethau un bleidiol, nid mewn democratiaethau,” meddai Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda.

“Dydy’r gwanychiad hwn i ddemocratiaeth yn gwneud dim i’n henw da fel cenedl ac mae’n anghynaladwy.”

‘Tawelwch’

“Rhyw fath o dawelwch” sydd ei angen o fewn gwleidyddiaeth nawr, meddai Samuel Kurtz, Aelod Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, wrth BBC Radio Cymru fore heddiw (dydd Llun, Hydref 24), gan ddweud ei fod yn credu mai Rishi Sunak fydd y Prif Weinidog nesaf.

“Mae’r cymorth sydd ganddo fe nawr ar ôl i Boris Johnson dynnu ma’s, a’r momentwm sydd ganddo fe nawr, yn dangos mai fe yw’r ffefryn yn San Steffan,” meddai.

“Gyda’r cyfnod sydd o’n blaenau ni, gyda’r problemau sydd gyda ni yn y marchnadoedd ariannol, dw i’n credu mai rhyw fath o dawelwch sydd angen arnom ni nawr.

“Popeth i setlo lawr tamaid dros y gaeaf yma i gryfhau.

“Gobeithio y gall pwy bynnag sy’n ennill ddod â’r cyfnod yna.”