Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi dymuno “Diwali hapus i bawb” ar y diwrnod y gallai’r Deyrnas Unedig gael Prif Weinidog Hindwaidd am y tro cyntaf erioed.

Mae disgwyl i’r ras i olynu Liz Truss yn Downing Street ddod i ben heddiw, a Rishi Sunak yw’r ffefryn i gael ei ethol gan ei blaid ar draul ei wrthwynebydd Penny Mordaunt.

Cafodd Sunak ei eni yn Southampton, yn fab i rieni Hindwaidd o Affrica o dras Punjabi.

Cafodd ei dad ei eni a’i fagu yn Kenya, tra bod ei fam yn enedigol o Tanganyika, a ddaeth yn rhan o Tanzania yn ddiweddarach.

Cafodd ei deidiau eu geni yn y Punjab yn India dan reolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig, ac fe wnaethon nhw fudo o Ddwyrain Affrica i’r Deyrnas Unedig yn y 1960au.

Caiff gŵyl Hindwaidd Diwali ei hadnabod fel “gŵyl y goleuni”, ac mae’n dathlu goruchafiaeth da dros ddrwg, goleuni tros dywyllwch, a gwybodaeth tros anwybodaeth.

Caiff yr ŵyl ei dathlu yn ystod y mis Hindwaidd Kartika, rhwng canol mis Hydref a chanol mis Tachwedd.

Neges Mark Drakeford

“Diwali hapus i bawb sy’n dathlu gŵyl y goleuni yng Nghymru a ledled y byd,” meddai Mark Drakeford ar Twitter.

“Mae Diwali yn dathlu buddugoliaeth gobaith dros anobaith.

“Gyda’n gilydd, byddwn yn cyflawni ein gobeithion i sicrhau dyfodol tecach i ni gyd.

“Mwynhewch y dathliadau.”