Rishi Sunak yw arweinydd newydd y Ceidwadwyr, gan olynu Liz Truss.
Daw’r cadarnhad ar ôl i Penny Mordaunt dynnu’n ôl o’r ras ar ôl ceisio denu digon o gefnogaeth, ddiwrnod yn unig ar ôl i Boris Johnson dynnu’n ôl hefyd.
Mae disgwyl, felly, mai’r cyn-Ganghellor fydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, a hynny unwaith fydd e wedi cael gwahoddiad gan y Brenin Charles III i ffurfio llywodraeth.
Er mwyn i hynny ddigwydd, bydd yn rhaid i Liz Truss gynnig ei hymddiswyddiad yn ffurfiol, ac mae hi wedi datgan “cefnogaeth lawn” i’w holynydd.
Dywed Syr Graham Brady, cadeirydd Pwyllgor 1922, y bydd Rishi Sunak yn annerch y blaid am 2.30yp.
Darllenwch yr ymateb o Gymru:
‘Natur wrth-ddemocrataidd system San Steffan wedi’i harddangos i’r byd’
Y gwrthbleidiau’n galw am etholiad cyffredinol, ond Andrew RT Davies yn mynnu bod Rishi Sunak yn “ffrind i Gymru”
‘Y Prif Weinidog newydd, pwy bynnag y bydd, heb fandad i reoli’
“Mae mwy o ots ganddyn nhw gyd am ddyfodol eu plaid a’r ideoleg na dyfodol unrhyw un cyffredin,” medd Delyth Jewell am y Blaid Geidwadol