Faint o le sydd ganddon ni i gwyno, mewn gwirionedd?

A ddylen ni ddysgu cau ein cegau a diolch am ein first world problems?

Dyna’r cwestiwn wrth feddwl am y penderfyniad sydyn, dirybudd i gau Pont Menai sydd ar gyrion dinas Bangor.

Bu’n rhaid ei chau am resymau diogelwch – y bont yn rhy beryglus i gerbydau ei chroesi.

Achosodd y penderfyniad i’w chau ar bnawn Gwener dagfeydd traffig enbyd, wrth i rai gymryd pedair awr a mwy i groesi o’r tir mawr i Fôn.