Rhaid i mi gyfaddef, nid oeddwn yn torri fy mol eisiau gwylio cyfres newydd S4C, ’Nôl i’r Gwersyll. Ynddi, gwelwn Wersyll yr Urdd Llangrannog yn cael ei drawsnewid i groesawu gwersyllwyr i brofi penwythnos mewn degawdau gwahanol yn ei hanes. Yn dechrau gyda’r 1950au yn y bennod gyntaf, y syniad yw anfon yr ymwelwyr modern yn ôl mewn amser a’u trochi mewn cyfnod arall, o’r gwisgoedd, i’r bwyd, i’r gweithgareddau.