Ar ôl blwyddyn heb lywodraeth yn San Steffan, gobeithio mai dyma’r tro ola’ am ychydig i ni orfod trafod Prif Weinidog Torïaidd newydd.

Rhyw ddau beth sydd wedi eu cyflawni yn ystod y cyfnod yna – rhoi rhagor o gefnogaeth i Wcráin a phecyn (chwe mis erbyn hyn) i helpu efo biliau ynni.

Mae popeth arall bron – gan gynnwys yr argyfwng prisiau – wedi cael eu hanwybyddu ynghanol ymrafael mewnol hyll y Blaid Geidwadol.