Gyda phob diwrnod ers cyfnod rhy faith yn ildio syndod, hurtrwydd a ffolineb newydd ym myd gwleidyddiaeth, anodd a gwirion fyddai darogan gyda’r elfen leiaf o sicrwydd beth sydd ar y gorwel.

Daeth i’r amlwg ddechrau’r wythnos fod Rishi Sunak bellach yn drydydd Prif Weinidog arnom eleni, gan wneud i’r cyfnod diweddaraf deimlo fel gwastraff amser llwyr. Ei job fydd pennu cyfeiriad newydd, ond mae p’un a all newid lwc y blaid Geidwadol yn rhywbeth arall.