Mae Golwg wedi codi’r wal dalu ar y golofn hon, i bawb gael blas ar yr arlwy…

Ar wefan golwg360 yn eithaf diweddar roedd stori am y gantores Lleuwen yn trafod y profiad gafodd hi gyda’i chân am y teulu brenhinol [‘Rhyddid’], a sut wnaeth y gân ddim cael ei chware ar y radio yn ystod y cyfnod o ‘alaru’ ar ôl i’r frenhines farw.

Erbyn hyn mae’r gân yn cael ei chwarae, ond o ddarllen y geiriau a gwrando arni, roeddwn i wir wedi syfrdanu bod cân sydd yn y bôn yn siarad am berthynas rhywun tuag at y teulu brenhinol mewn ffordd mor gynnil, mor drosiadol, dal yn cael ei sensro. Mae’n anhygoel i mi.

Rwyf ar fin mynd mewn i’r stiwdio i recordio EP nesaf Eadyth a finne (yn y gobaith fydd hi mas cyn y Nadolig i chi gyd!), ac enw un o’r caneuon yw ‘Coron’ – ac mae e’n hynod o eglur a chlir o ran pa mor wrth-frenhiniaeth ydym ni. Mae’r gân yn crybwyll hanes tywyll y teulu brenhinol o fewn cyd-destun Cymru a hefyd gweddill y byd. Yn barod, heb hyd yn oed ei recordio hi eto, mae Eadyth a finne yn ymwybodol na fydd y gân yn debyg o gael ei chware ar y radio. Er enghraifft, un o’r llinellau yw:

 

“Syfrdanu fi – ni’n troi cefn ac anghofio,

Hi’n talu off ei mab am pedoffilio”

 

Mae hyn yn amlwg yn bell iawn o’r subtlety a’r nuance yng nghân Lleuwen! Fel band, rydan ni’n gweld y gân fel cyfnither dywyll ‘Cymru Ni’. Pan ysgrifennais i’r gân yna, roeddwn i’n ymwybodol o’r posibilrwydd ohoni’n effeithio ar fy ngyrfa yn y theatr fel cyfarwyddwr. Mae’n dechre gyda’r llinellau “Ble mae ffydd y Cymry yn eu hun? Cyfarwyddwyr Artistig o’r London Scene” – fel rhywun sy’n dibynnu ar y cyfarwyddwyr artistig yna am waith, am ddatblygu fy ngwaith creadigol, mi oedd o’n risg.

Ond fel rwy’n credu gydag unrhyw beth creadigol, os ydych chi ddim yn creu gwaith sy’n heriol, sy’n codi cwestiynau ac yn trafod y gwirionedd o ran beth sy’n mynd ymlaen o fewn eich cyd-destun dyddiol, beth yw’r pwynt? Yn enwedig gyda cherddoriaeth, rwy’n credu. Mae cerddoriaeth yn ffordd mor hawdd o dynnu sylw pobl at eiriau trwy fframwaith y cynhyrchu, y rhythm a’r bachyn melodaidd y gall y gynulleidfa ddal ymlaen iddi. Gallwch chi ddweud lot fawr mewn ffordd atyniadol iawn.

Dydw i byth eisiau bod yn rhywun creadigol complacent a dydw i byth eisiau peidio creu gwaith sy’n mynd i fod yn heriol a chymhleth i’r gynulleidfa.

Rwy’n gaeth i’r adrenaline o greu gwaith fel hyn, o feddwl bod yna bosibiliad helaeth y bydd pobl yn casau’r gân… ond sdim ots gyda fi!

Ar ôl blynyddoedd o ganu a rapio – gyda phobl yn dod lan ata i ar ôl gigs a dweud wrtha i na ddylwn i rapio, fy mod i’n ofnadwy a dyle fi drio swnio’n fwy ‘pert’ gyda’r stwff rwy’n sgwennu – mae beth bynnag fydd bobl yn meddwl o fy ngwaith nawr ddim rili yn poeni fi.

Rydw i wrth gwrs yn diolch o galon am y bobl sy’n cefnogi beth rwy’n gwneud a thrio cyflawni gyda fy ngwaith.

Ond o ran y nifer sydd ddim yn meddwl dylai pobl femme rapio, neu fod rapio yn ddwyieithog ddim yn ddigon “accessible”, neu dyle fy ngwaith aros yr un peth, neu o fewn yr un ‘genre’ o gerddoriaeth, allwn i ddim poeni llai. Mae sensro pobl greadigol yn cynyddu wrth i’r byd droi yn fwy ffasgaidd, a dyna’r gwirionedd.

Rydym ni angen cefnogi pobl greadigol sydd eisiau dweud rhywbeth newydd a siarad allan am bethau rydym ni i gyd yn cymryd yn ganiataol. Mae’r myfyrio diwylliannol mae cerddoriaeth a’r celfyddydau yn gallu rhoi i ni, o fewn fframwaith o ryddhad ac o fwynhad, yn werthfawr.