Mi fydd calonnau trigolion sy’n teithio rhwng Gwynedd a Môn yn syrthio heddiw pan fyddan nhw yn dod i ddeall bod Pont Menai wedi cau tan 2023.

Bu yn rhaid cau’r bont am ddau o’r gloch y prynhawn yma (21 Hydref) oherwydd bod angen gwneud gwaith brys arni.

Ni fydd modd i gerbydau, cerddwyr na beicwyr deithio ar y bont a anfarwolwyd yn yr englyn:

 

Uchel gaer uwch y weilgi – gyr y byd

Ei gerbydau drosti

Chwithau, holl longau y lli

Ewch o dan ei chadwyni

 

Bydd y bont gadwyn ar gau tan y flwyddyn newydd er mwyn i weithwyr fedru gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol, gan bod cyflwr presennol y bont yn beryglus.

Disgwylir i’r gwaith gymryd hyd at 16 wythnos a bydd yr holl draffig yn cael ei ddargyfeirio i Bont Britannia.

Bydd ofnau y gallai hyn arwain at dagffeydd traffig sylweddol.

Dim modd osgoi hyn

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd sydd hefyd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth fod “y gwaith brys yma yn digwydd ar gyfer diogelwch y cyhoedd, ac yn anffodus, nid oes modd ei osgoi. Rydym ni’n gwbl ymwybodol o’r effaith y bydd hyn yn ei gael ar yr ardal leol.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda Phriffyrdd y DU i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei wneud yn ddiogel ac mor gyflym â phosib i sicrhau nad yw’n tarfu yn ormodol ar y gymuned leol.”

Tagfeydd traffig

Eisoes mae gwasanaeth newyddion y Bangor Aye yn adrodd bod rhybudd swyddogol ynghylch tagfeydd traffig ar yr A55 yn arwain at Bont Britannia.

Ac mae Aelod o’r Senedd y Fam Ynys wedi trydar ei fod yn “bryderus iawn” am effaith cau’r bont “am rai misoedd”: