Mae’n bwysig “gwahaniaethu rhwng y pethau rydyn ni’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i’w wneud a’r pethau y gall Llywodraeth Cymru wneud” wrth edrych ar ‘Gynllun y Bobol’ Plaid Cymru, yn ôl eu harweinydd Adam Price.
Cafodd y gyfres o bolisïau eu lansio yng nghynhadledd flynyddol y Blaid, sy’n cael ei chynnal yn Llandudno y penwythnos hwn.
Mae’r mesurau hyn yn cynnwys:
- canslo’r cynnydd pris fis Hydref ac adfer cap y gaeaf diwethaf o £1,277 a oedd yn llawer is, ac ymestyn y cap y tu hwnt i’r cyfyngiad chwe mis ar gyfer cartrefi a busnesau.
- darparu codiad o £25 yn y Credyd Cynhwysol ar unwaith ac ymrwymo i godi pob budd-dal yn unol â chwyddiant o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.
- rhewi rhent yn y sector breifat a gwahardd troi am allan y gaeaf hwn fel y cam cyntaf tuag at system o reoli rhent.
- rhewi prisiau tocynnau trên ar gyfer 2023, gyda mwy o docynnau tu allan i oriau brig yn cael eu gwerthu hanner pris, a chyflwyno cap o £2 ar bris tocyn bws.
- ehangu’r polisi cinio ysgol i bawb i bob disgybl ysgol uwchradd gan ddechrau gyda phlant y teuluoedd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol.
- talu cyflog teg yn y sector gyhoeddus.
‘Sarhad’
“Mae sarhad y Llywodraeth Geidwadol tuag at ddemocratiaeth, eu cynllwynio, eu parodrwydd i aberthu pawb a phopeth ar allor uchelgais wedi arwain at yr arweinyddiaeth fyrraf erioed yn hanes Prif Weinidogion Prydain,” meddai Adam Price wrth lansio’r cynllun.
“Gweithred gyntaf – a gobeithio olaf – y Prif Weinidog nesaf ddylai fod cyhoeddiad i alw Etholiad Cyffredinol.
“Nid oes ganddyn nhw unrhyw fandad nac unrhyw hygrededd yn weddill.
“Mae’r Torïaid yn wynebu diflannu’n llwyr o fap gwleidyddol Cymru yn yr etholiad nesaf.
“Y dewis sy’n ein hwynebu ydi cael gwared arnyn nhw dros dro drwy Lywodraeth Lafur yn San Steffan, neu gael gwared arnyn nhw am byth gydag annibyniaeth.”
‘Argyfwng’
“Mae’n rhaid gwahaniaethu rhwng y pethau rydyn ni’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i’w wneud a’r pethau y gall Llywodraeth Cymru wneud nawr hyd yn oed o fewn y cyfyngiadau sydd arnyn nhw,” meddai Adam Price wrth golwg360.
“Pe baen ni eisiau iddyn nhw gael eu cyflwyno ar lefel Cymreig yn unig fe fyddai’n rhaid symud tuag at ddatganoli pwerau llawer mwy radical nag sy’n bodoli nawr.
“Yn y pen draw, rydych chi’n edrych ar Gymru annibynnol er mwyn i ni wneud hynny.
“Ond dyw hynny ddim yn rheswm i ni beidio rhoi pwysau a galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i weithredu tra’n bod ni o fewn y gyfundrefn bresennol.
“O ran y rhai Cymreig wedyn, y galwadau ar Lywodraeth Cymru, mae y rheiny yn bethau y gallwn ni wneud nawr hyd yn oed o fewn y cyfyngiadau o ran pwerau a chyllid sydd arnom ni.
“Mae rhai ohonyn nhw ddim yn bethau sy’n golygu gwario, rhewi rhent yn y sector breifat a gwahardd taflu allan er enghraifft.
“Mae rhai wedyn yn golygu gwario, mi fyddai’r polisi o ran ymestyn prydau ysgol am ddim.
“Fe fyddai darparu codiad o £25 i’r sawl sy’n derbyn credyd cynhwysol yn costio £18 miliwn.
“Dydyn ni ddim yn dadlau bod £18m yn arian bach ond yng nghyd-destun y gyllideb gyfan, does bosib allwn ni ffeindio £18m mewn argyfwng.”