Does “neb i fod i siarad am Brexit” – er gwaetha’r modd y mae’n “llesteirio” economi gwledydd Prydain.

Dyna farn Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd ac arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

Daw ei sylwadau wrth i Blaid Cymru gynnal ei chynhadledd flynyddol yn Llandudno heddiw (21 Hydref).

Ddoe (dydd Iau, 20 Hydref), fe ymddiswyddodd Liz Truss fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig gan sbarduno galwadau lu am etholiad cyffredinol gan wrthbleidiau San Steffan.

Fodd bynnag, nid yw Liz Saville Roberts o’r farn y byddai Llywodraeth Lafur yn gallu adfer sefyllfa economaidd Prydain pe baen nhw’n ennill etholiad cyffredinol, oherwydd nad yw’r blaid eisiau ail ymuno â’r Farchnad Sengl a’r Undeb Dollau.

“Melltith”

“Mae rhywun yn teimlo bod prif gyfryngau Prydain, y BBC ac ati, fod neb i fod i siarad am Brexit,” meddai Liz Saville Roberts wrth golwg360 yn Llandudno.

“Ac wrth gwrs, mae yna effeithiau eraill yn y byd o ran effaith covid, y rhyfel yn Wcráin a’r argyfwng hinsawdd.

“Ond mae Brexit wedi rhoi haen o ddylanwad gwaeth byth ar economi Prydain, ac mae hi fel nad ydyn ni fod i siarad am hyn.

“Ac mae hynny yn ddiddorol, oherwydd petai yna etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal yfory, mae hi’n saff mai Keir Starmer fyddai’r Prif Weinidog.

“Ond dydy’r Blaid Lafur ddim hyd yn oed eisiau ail ymuno â’r Farchnad Sengl a’r Undeb Dollau.

“Felly mae’r ddwy brif blaid Brydeinig yn dal i afael yn y felltith sy’n gwaethygu ein hansawdd bywyd ni ac yn llesteirio ein heconomi ni.

“Mae unrhyw un sy’n edrych ar economi Prydain yn gweld fod natur yr economi wedi’i adeiladu ar gyfoeth de ddwyrain Lloegr a’r sector ariannol.

“Does dim ond rhaid edrych ar hynny, ac wedyn ystyried sut mae’r cyflwr parhaol o dlodi’n cael ei gymryd yn ganiataol y tu allan i dde ddwyrain Lloegr.

“Wedyn mae gennym ni ddatganoli yng Nghymru, a’r gwir amdani yw fod y pwerau sydd gennym ni yng Nghymru yn rhai sy’n ein galluogi i ymdopi â thlodi, ond does yna ddim modd i lewyrchu.

“Does dim ond rhaid i rywun edrych dros y môr i Iwerddon a gweld yr opsiynau sydd ganddyn nhw [wrth fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd].”

Annibyniaeth

Er bod gan Blaid Cymru gytundeb i gydweithio gyda’r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd ar faterion penodol, mae Liz Saville Roberts yn fflangellu’r Balid Lafur Brydeinig am fethu cynnig atebion i broblemau Cymru.

Ac mae hi’n dweud bod angen trafodaeth o ddifri’ ynghylch Cymru yn gadael y Deyrnas Unedig.

“Yn economaidd, os ydan ni eisiau rhyw fath o newid yn y strwythur sy’n ein cadw ni yn y cyflwr rydan ni wedi bod ynddo ymhell cyn cyfnod y Ceidwadwyr, beth arall ydi’r opsiynau [oni bai am annibyniaeth]?

“Mae’r cwestiwn o beth fydd annibyniaeth yn gwestiwn diddorol ofnadwy, ond mae hi’n yn amser i ni glywed y dadleuon.

“Does dim dwywaith amdani, mae’n rhaid i ni yng Nghymru fod yn edrych allan a gweld bod gwledydd eraill yn gwneud yn well na’r hyn sy’n cael ei wneud i ni.

“Mae’r ddadl bod Llafur rywsut yn mynd i weddnewid y cyfan a newid Cymru yn sgil hynny yn un hurt.

“Mae angen edrych yn ôl ymhellach na’r ddeuddeg mlynedd diwethaf [o Lywodraeth Dorïaidd yn San Steffan] a gweld bod Llafur erioed wedi newid yr hyn fyddai’n gwneud gwahaniaeth sylfaenol yng Nghymru.”