Mae Cefin Campbell am i bobol “ddychmygu dyfodol gwahanol i Gymru”, gan fynnu mai “dim ond buddiannau de-ddwyrain Lloegr” sy’n bwysig i’r Ceidwadwyr yn San Steffan.
Daw sylwadau Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wrth i’w blaid gynnal eu cynhadledd flynyddol yn Llandudno.
“Y neges glir ydi nad yw San Steffan yn gweithio dros bobol Gymru,” meddai wrth golwg360.
“Felly mae’n rhaid i ni fynd â’r neges yna allan at bobol Cymru a gofyn iddyn nhw agor eu meddyliau a dychmygu dyfodol gwahanol i Gymru.
“Dyfodol sydd wedi ei seilio ar egwyddorion o degwch a chyfartaledd.
“Achos dyna mewn gwirionedd yw beth rydyn ni eisiau ei weld, cymunedau mwy cynaliadwy.
“Ac mae’r gair cynaliadwy yna’n meddwl cynaliadwy yn economaidd, yn amgylcheddol, yn ieithyddol ac o ran buddiannau y bobol fwyaf bregus yn ein cymdeithas.
“Felly ie, y neges yw ein bod ni’n gallu dychmygu dyfodol gwahanol, dim ond i ni gael yr hyder i fyny hynny.
“Mae beth sydd wedi digwydd yn San Steffan dros yr wythnosau a misoedd diwethaf wedi dagos nad buddiannau Cymru a’r Alban sy’n flaenoriaeth i’r Torïaid, dim ond buddiannau de-ddwyrain Lloegr.
“Mae’n rhaid i ni sicrhau mwy o bwerau i Gymru a bod yn gyfforddus gyda’r pwerau ychwanegol yna, ac wedyn bydd pobol yn meddwl gyda’r pwerau yma bod Cymru annibynnol yn rhywbeth hollol bosibl.”
Helynt Jonathan Edwards dal yn gwmwl dros y Blaid?
Un o’r heriau mae Plaid Cymru wedi’u hwynebu eleni yw helynt Jonathan Edwards, gyda beirniaid yn dweud bod arweinyddiaeth y Blaid wedi methu ymdrin â’r mater yn gall.
Cafodd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ei wahardd o’r Blaid am 12 mis ar ôl derbyn rhybudd gan yr heddlu am ymosod ar ei wraig, Emma Edwards, yn 2020.
Fodd bynnag, daeth Panel Aelodaeth, Disgyblaeth a Safonau Plaid Cymru i’r casgliad ei fod wedi bodloni’r amodau gafodd eu gosod pan gafodd ei wahardd, a chytunodd y panel yn unfrydol i dderbyn Jonathan Edwards fel aelod eto.
Achosodd hyn raniadau dwys o fewn y Blaid, gyda rhai wedi’u ffieiddio ei fod wedi cael ei groesawu’n ôl i’r gorlan ac eraill – yn enwedig yn ei etholaeth – yn gefnogol dros ben iddo.
Yn y pen draw, fe gyhoeddodd Jonathan Edwards ei fod yn camu’n ôl o Grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, a hynny chwarter awr cyn i’r arweinydd Adam Price alw arno i ymddiswyddo.
Felly wrth i’r Blaid gynnal eu cynhadledd flynyddol, ydi helynt Jonathan Edwards yn dal i fod yn gwmwl dros y Blaid?
“Wel mae ffocws pawb rydw i wedi siarad gyda nhw dros yr wythnosau diwethaf nawr ar yr argyfwng costau byw,” meddai Cefin Campbell.
“Ffocws Plaid Cymru yw cefnogi pobol Cymru.
“Oherwydd fel cynghorwyr sir, fel aelodau etholedig o’r Senedd, dyna ydi’r e-byst mwyaf rydyn ni’n cael gan bobol sydd wir yn poeni nad ydyn nhw am allu talu eu biliau, cadw’n gynnes a rhoi bwyd ar y bwrdd i’w plant dros y gaeaf.
“A dyna fydd ffocws pawb yn y gynhadledd; nid ffocysu ar unrhyw unigolion neu ddigwyddiadau sydd wedi digwydd dros y misoedd diwethaf.
“A dw i’n synhwyro erbyn hyn fod ffocws [pobol o fewn etholaeth Jonathan Edwards] hefyd wedi symud tuag at yr argyfwng costau byw.”