Bydd darlith flynyddol er anrhydedd i Betty Campbell, y pennaeth du cyntaf ar ysgol yng Nghymru a’r ymgyrchydd cymunedol o Gaerdydd, yn cael ei chynnal yn y Senedd yn ystod Mis Hanes Pobol Dduon eleni.
Ar y cyd â dangosiad o’r ffilm ddogfen Black and Welsh a sgwrs gyda Liana Stewart, cyfarwyddwyr y ffilm a gafodd ei magu yn Nhre-biwt, bydd y ddau ddigwyddiad yn y Senedd ddydd Iau (Hydref 27) yn rhoi llwyfan i hunaniaeth ddu Gymreig a chymuned Tre-biwt.
Yn ystod y digwyddiad ar y cyd rhwng Monumental Welsh Women a Chyngor Caerdydd, bydd yr Athro Olivette Otele yn traddodi’r ddarlith am 12 o’r gloch ar Hydref 27 yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, gyda’r teitl ‘Celebrating the Infinite Power of Education’.
Mae’r Athro Olivette Otele yn hanesydd ac awdur yng Nghasnewydd, ac mae’n Athro Nodedig mewn Cymynroddion a Chaethwasiaeth Cof yn SOAS, Prifysgol Llundain.
Mae hi’n Gymrawd ac yn gyn Is-lywydd y Gymdeithas Hanes Frenhinol, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac wedi bod yn feirniad gwobr yr International Man Booker Prize.
Black and Welsh
Yn ddiweddarach yr un diwrnod, bydd y Senedd yn cynnal dangosiad o’r ffilm ddogfen Black and Welsh, sy’n archwilio hanes a dyfodol hunaniaeth ddu yn y Gymru fodern.
Ar ôl y dangosiad am 6 o’r gloch, bydd Liana Stewart, y gwneuthurwr ffilmiau o Dre-biwt, Caerdydd, yn trafod ei bywyd a’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’r ffilm ddogfen.
Mae’r ffilm yn dangos actorion, digrifwyr, ffigurau busnes ac arwyr cymunedol mewn ciplun o fywyd yng Nghymru.
Mae’r ffilm ddogfen 30 munud o hyd yn dathlu balchder pobol o fod yn Gymry, ochr yn ochr â phrofiadau o hiliaeth a’r sefyllfaoedd anghyfforddus ac anodd mae pobol yn parhau i’w hwynebu, wedi’u cyfleu yn eu geiriau eu hunain.
Drwy gydol mis Hydref, bydd y ffilm hon yn cael ei dangos yn y Senedd i roi cyfle i ymwelwyr oedi a myfyrio ar y straeon gaiff eu dangos yn ystod eu hymweliad â’r adeilad.
Cafodd y ffilm ei chynhyrchu gan ie ie Productions, ac fe enillodd wobr Bafta Cymru yn 2021 yng nghategori’r Cyfarwyddwr Gorau: Ffeithiol.
Mae’r sesiwn gyda Liana Stewart a Darlith Cerflun Betty Campbell yn agored i’r cyhoedd ac mae modd archebu tocynnau ar wefan y Senedd.
Liana Stewart “wedi gwirioni”
“Dwi wedi gwirioni bod y ffilm ddogfen dwi fwyaf balch ohoni, Black and Welsh, yn cael ei dangos yn y Senedd, yng nghanol Caerdydd,” meddai Liana Stewart.
“Daeth fy nghyndeidiau drwy’r dociau hyn a ches i fy magu yma felly mae gen i gysylltiad dwfn â’r ardal.
“Rwy’n gobeithio fy mod yn gwneud cymuned leol Butetown yn falch ac rwyf wedi fy nghyffroi’n lân y bydd y ffilm yn cael ei chyflwyno i’r llu o ymwelwyr sy’n dod i Fae Caerdydd, gan roi cyfle iddynt glywed profiadau pobol ddu a Chymreig.”
Yr Athro Olivette Otele fydd yn cyflwyno Darlith Flynyddol Gyntaf Cerflun Betty Campbell.
“Mae Betty Campbell wedi chwarae rhan allweddol yn fy nhaith fel gweithredwr ysgolheigaidd,” meddai.
“Mae’n anrhydedd aruthrol bod y cyntaf i draddodi Darlith Cofeb Betty Campbell.”
‘Chwyddo lleisiau pobol dduon Cymru’
“Drwy fod yn angerddol ac yn benderfynol, mae’r ddwy fenyw wedi chwyddo lleisiau pobol dduon Cymru,” meddai Elin Jones, Llywydd y Senedd.
“Mae egni Betty Campbell yn parhau i ysbrydoli ac rwy’n edrych ymlaen at glywed yr Athro Otele yn siarad.
“Fel gwneuthurwr ffilmiau a rhaglenni dogfen blaenllaw o Butetown, mae sesiwn Liana Stewart yn sicr o fod mor ddiddorol ac addysgiadol â’i ffilm ddogfen Black and Welsh.
“Rwy’n falch o groesawu Liana i’r Senedd.”