Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod Prif Weinidog Cymru wedi anwybyddu eu cais i gywiro’i sylwadau am ddata Ambiwlans Awyr Cymru.

Roedd Russell George, yr Aelod tros Sir Drefaldwyn, wedi ysgrifennu at Mark Drakeford yn gofyn iddo ddatrys y dryswch ynghylch data oedd yn cefnogi’r cynigion i symud pencadlys Ambiwlans Awyr Cymru, sydd yn y Trallwng ar hyn o bryd.

Gofynnodd iddo a fyddai’n cyhoeddi’r data i gefnogi cau’r safle, yn groes i ddymuniadau Russell George, ei blaid a chymunedau Powys.

Yn ôl Mark Drakeford, nid Llywodraeth Cymru oedd yn berchen ar y data, ac yn ei lythyr fe eglurodd y sefyllfa bresennol gan ddweud y bydd penderfyniad terfynol yn gynnar y flwyddyn nesaf.

‘Pryderon enfawr’

Mewn trafodaeth yn y Senedd ar Fedi 20, dywedodd Russell George nad oes gan Bowys ysbyty cyffredinol rhanbarthol, a bod “rhannau helaeth o Bowys yn eithriadol o anodd eu cyrraedd ar y ffyrdd”.

Dywedodd fod “pryderon enfawr” ynghylch y cynnig i symud pencadlys yr ambiwlans awyr a’r criw o’r Trallwng, a bod pobol Powys “wedi’u synnu a’u siomi” yn sgil y cynnig.

“Ga i ofyn beth yw barn Llywodraeth Cymru ar y cynnig hwn?” gofynnodd.

“A fydd ymgynghoriad go iawn, o gofio ymrwymiad Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru?

“Ydych chi wedi gweld y data a’r dehongliad sydd y tu ôl i’r cynnig hwn, ac a fyddech chi a Llywodraeth Cymru’n barod i roi’r wybodaeth yma ar gael?

“Er gwaetha’r ffaith fod yr elusen yn dweud nad ydyn nhw eisiau arian gan y Llywodraeth, a fyddai’r Llywodraeth yn barod i ystyried ariannu fel bod yna wasanaeth ambiwlans awyr digonol yng nghanolbarth Cymru gyda safle’n cael ei gadw yng nghanolbarth Cymru?”

‘Gwneud y mwyaf o’r gwasanaeth’

Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn “deall” yr hyn roedd Russell George yn ei ddweud ar ran y bobol mae’n eu cynrychioli.

“Ers amser hir, safbwynt Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yw nad ydyn nhw eisiau derbyn arian yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ac maen nhw’n gwneud hynny am resymau da iawn sy’n ymwneud â’u model eu hunain,” meddai.

“Maen nhw’n ffyrnig o annibynnol yn y modd hwnnw.

“Dw i’n gwybod eu bod nhw wedi rhoi sicrwydd cyhoeddus nad oes a wnelo hyn ddim oll â thorri costau.

“Yn syml, mae’n fater o wneud y mwyaf o’r gwasanaeth maen nhw’n ei ddarparu.

“Dw i wedi gweld ffigurau sy’n deillio o’r gwaith sydd wedi cael ei gwblhau, ond dydyn nhw ddim yn ffigurau sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru; maen nhw’n eiddo’r elusen ambiwlans awyr hwythau.

“Fyddai hi ddim yn briodol i fi, dw i ddim yn meddwl, i gyhoeddi’r ffigurau hynny ar eu rhan nhw, ond byddan nhw heb amheuaeth yn llygaid y cyhoedd.”

Gofyn am “eglurhad pellach”

Yn ei lythyr, gofynnodd Russell George am “eglurhad pellach” ynghylch y cynigion i newid sydd wedi’u derbyn gan Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a gwasanaethau eraill gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru.

Wrth drafod y data, dywedodd fod “elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi nodi bod y data dan sylw’n eiddo EMRTS Gwasanaeth Iechyd Cymru” ac yr hoffai “weld y data dan sylw’n cael ei gyhoeddi, ac eglurhad ynghylch pwy sy’n berchen y data”.

“A allwch chi gadarnhau os gwelwch yn dda mai Gwasnaeth Iechyd Gwladol Cymru neu’r elusen sy’n berchen y data?” meddai, gan ofyn am unrhyw wybodaeth berthnasol arall.

Gofynnodd ymhellach i Mark Drakeford “gywiro’r cofnod os oedd yr hyn wnaethoch chi ei nodi yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn anghywir”.

Eglurhad

Yn ôl yr ymateb gan Mark Drakeford, roedd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys wedi cyhoeddi nodyn briffio ynghylch y gwaith o adolygu’r cynigion gan EMRTS a’r Ambiwlans Awyr.

Mae EMRTS a’r Ambiwlans Awyr wedi cyflwyno “datblygiad gwasanaeth posib”, meddai, a hwnnw’n “seiliedig ar ddadansoddiad o’r data gafodd ei gasglu” er mwyn bodloni gofynion comisiynwyr.

Dywed fod hyn “wedi cynnig cyfle i wella’r defnydd o adnoddau – cerbydau awyr, cerbydau ffordd, staff a chanolfannau – er lles pobol ledled Cymru”.

Yn ôl y cynnig, meddai, byddai modd trin 583 yn rhagor o gleifion mewn cyflwr difrifol bob blwyddyn ar gyfartaledd, ac ateb 88% o’r galw yn hytrach na’r 72% presennol heb wario mwy o arian.

“Rwy’n deall bod cymunedau ger y Trallwng a Chaernarfon wedi mynegi pryderon am y posibilrwydd o newid lle mae Ambiwlans Awyr Cymru ac EMRTS,” meddai.

“Does dim penderfyniadau wedi’u gwneud ynghylch unrhyw newid i le mae’r gwasanaeth wedi’i leoli a does dim cynnig ffurfiol wedi’i gyflwyno eto.”

Dywedodd fod Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymunedol Cymru Gyfan yn trafod y trefniadau i gynnal ymgynghoriad ar y cynnig, a bod disgwyl i hynny gael ei gyflwyno fis nesaf

Ychwanegodd y bydd penderfyniad terfynol yn gynnar y flwyddyn nesaf.

“Heb fynd i’r afael â” holl gwestiynau Russell George

Wrth ymateb, dywed Russell George nad yw’r Prif Weinidog wedi mynd i’r afael â’i holl gwestiynau ynghylch y sefyllfa.

“Eiddo Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yw’r data dan sylw, ac roedd y Prif Weinidog yn anghywir wrth ddweud wrthyf fi a’r Senedd mai eiddo’r Elusen Ambiwlans Awyr yw’r data,” meddai.

“Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i fod yn agored a thryloyw ynghylch eu hymrwymiad yn y cynigion.

“Mae Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru’n elusen annwyl iawn i bobol ac yn un sy’n derbyn cefnogaeth wych gan fy etholwyr a phobol ledled canolbarth Cymru.

“Dyna pam fod cymunedau ledled Powys a thu hwnt yn teimlo mor gryf y dylai’r safle aros yn y Trallwng.”