Mae Pere Aragonès, arlywydd Catalwnia, wedi bod ym Mrwsel i drafod ei bryderon am y ffordd mae Sbaen wedi ymdrin â helynt ysbïo ‘Catalangate’ gyda Chomisiynydd Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd.

Cafodd dros 60 o ffigurau allweddol yn yr ymgyrch dros annibyniaeth eu targedu gan feddalwedd ysbïo Pegasus a Candiru.

Wrth siarad yn dilyn ei gyfarfod â Didier Reynders, fe wnaeth yr arlywydd glodfori’r cytundeb rhwng Sbaen, Portiwgal a Ffrainc i greu peipen hydrogen werdd rhwng Barcelona a Marseille, gan honno bod gan Frwsel “ddiddordeb” yn yr helynt ysbïo a “phryderon” amdano.

Dyma’r tro cyntaf i arlywydd Catalwnia ac un o gomisiynwyr yr Undeb Ewropeaidd gyfarfod ers 2015.

Fe fu’r berthynas dan straen ers i Gatalwnia gynnal refferendwm annibyniaeth yn 2017, a gafodd ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Sbaen.

Yn 2017, teithiodd Carles Puigdemont, yr arlywydd ar y pryd, i Frwsel i siarad ag Aelodau Seneddol Ewropeaidd am y bleidlais ond chafodd e na’i olynydd Quim Torra mo’r hawl i gynnal cyfarfod â’r Comisiwn.

“Rydyn ni’n ystyried adfer perthynas wedi’i normaleiddio’n bositif iawn,” meddai Pere Aragonès.

Yn ôl ei weinidogion, mae a wnelo’r gosodiad hwnnw â strategaeth llywodraeth Catalwnia i geisio parhau â’r trafodaethau â llywodraeth Sbaen ym Madrid am annibyniaeth.

Roedd disgwyl i’r trafodaethau gael eu cynnal ym mis Mai eleni, fisoedd yn unig cyn i blaid Junts per Catalunya, partner iau yn llywodraeth glymblaid Catalwnia, adael y trefniant hwnnw gan adael Esquerra yn arwain ar eu pennau eu hunain.