Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod rhagor o gwestiynau i’w hateb ynghylch gweinidogion Llywodraeth Lafur Cymru’n prynu fferm ar gyfer Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

Wrth siarad â Radio Wales, mae Fiona Stewart wedi dweud mai syniad y llywodraeth oedd gwario £4.25m o arian trethdalwyr ar Gilestone Farm, a bod y gweinidogion wedi mynd ati i gynnig gwneud hynny, er y byddai’r ŵyl wedi ffafrio prynu’r tir drostyn nhw eu hunain.

Yn ôl y Ceidwadwyr, mae hyn yn wahanol i sylwadau Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, sydd wedi dweud bod Llywodraeth Cymru wedi prynu’r fferm er mwyn sicrhau dyfodol hirdymor yr ŵyl.

“Llwyddodd Llywodraeth Cymru i sicrhau rhydd-ddaliad ac adles tymor byr Fferm Gilestone am £4.25m,” meddai yn y Senedd ym mis Mai.

“Rydym yn caffael yr eiddo er mwyn hwyluso buddsoddiad mewn busnesau lleol, y gymuned ac economi Cymru.”

‘Craffu’

“Rwy’n gefnogol i ddyfodol hirdymor y Dyn Gwyrdd,” meddai James Evans, llefarydd canolbarth Cymru y Ceidwadwyr Cymreig.

“Fodd bynnag, rhaid gwario arian cyhoeddus yn ofalus ac yn ddiwyd, felly mae angen i ni graffu go iawn ar rôl y Llywodraeth Lafur wrth brynu Gilestone Farm.

“Dydy’r cyhoedd ddim yn cael yr atebion mae hawl ganddyn nhw i’w cael, ac mae’r holl broses yn llwm dros ben gyda £4.25m o arian trethdalwyr a gonestrwydd Llywodraeth Cymru yn y fantol.

“Mae pobol yn gywir iawn yn mynnu atebion, a fydd y Ceidwadwyr Cymreig ddim yn gorffwys hyd nes ein bod ni’n eu cael nhw.”

“Rhywbeth yn drewi” – beirniadu prynu fferm am £4.25m i gynnal gŵyl roc

Huw Bebb

“Pa fudd sydd yn mynd i fod i’r gymuned? Pa fudd sy’n mynd i fod i’r pwrs cyhoeddus? Pa fudd fydd yna i amaethyddiaeth?”