Mae Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd a llefarydd materion gwledig y blaid, yn dweud bod sylwadau Fiona Stewart, rheolwr gyfarwyddwr Gŵyl y Dyn Gwyrdd, ei bod hi “wedi synnu” gan yr ymateb i Lywodraeth Cymru’n gwario £4.25m ar fferm i’r busnes yn dilyn cyfarfod rhyngddi hi, gweinidogion Llafur a lobïwr yn “naïf, amhwyllog ac annoeth”.
Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, a Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn dweud iddyn nhw gynnal cyfarfod anffurfiol.
Ond dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ddiweddar ei fod e wedi gofyn i’r Ysgrifennydd Parhaol edrych ar presenoldeb dau weinidog yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.
Daw hyn ar ôl i Mabon ap Gwynfor godi pryderon am ymweliad y ddau weinidog â’r ŵyl, ond mae Llywodraeth Cymru’n mynnu eu bod nhw yno “mewn rhinwedd bersonol”.
Yn ôl adroddiadau, aeth y gweinidogion i gartref Cathy Owens, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni Deryn Consulting, i gynnal cyfarfod â Fiona Stewart, perchennog yr ŵyl, wrth i ffrae fynd rhagddi yn sgil y penderfyniad i wario £4.25m o arian cyhoeddus i brynu fferm i gynnal yr ŵyl, yn ôl WalesOnline.
Mae Cathy Owens wedi datgan fod yr ŵyl ymhlith ei chleientiaid, ac nad oedd angen i Julie James a Jeremy Miles roi gwybod am y cyfarfod gan eu bod nhw yno mewn rhinwedd bersonol ac nid yn ffurfiol ar ran y Llywodraeth.
‘Triniaeth arbennig’
“Mae sylwadau Fiona Stewart yn naïf, amhwyllog ac annoeth,” meddai Mabon ap Gwynfor.
“Does yna’r un digwyddiad na sefydliad arall wedi cael y math hwn o driniaeth arbennig gan y Llywodraeth Llafur lle mae hawl ganddyn nhw i ddrafftio achos busnes wedi’r digwyddiad ar ôl derbyn arian cyhoeddus gan y llywodraeth.
“Y ffaith o hyd yw fod cyfarfod llechwraidd wedi’i gynnal rhwng gweinidogion y llywodraeth a pherchennog Gŵyl y Dyn Gwyrdd oedd wrthi ar y pryd yn drafftio cynllun busnes i gyfiawnhau gwariant y llywodraeth ar ei busnes, yng nghartref lobïwr Gŵyl y Dyn Gwyrdd, oedd hefyd yn digwydd bod yn gyn-ymgynghorydd arbennig i’r Llywodraeth.
“Mae sylwadau Mr Miles hefyd yn gyfeiliornus.
“Fe wnaeth e a’i gyd-weinidog, Julie James, ddangos crebwyll gwael dros ben a gadael eu hunain mewn sefyllfa amheus.
“Mae llywodraethau’n gwneud penderfyniadau trwy gyfrifoldeb ar y cyd, dydy’r ffaith nad oedd ganddyn nhw ymrwymiad portffolio gweinidogol uniongyrchol ddim yn amddiffyniad.
“Mae’r bennod hon yn codi amheuon difrifol am y ffordd mae Llywodraeth Cymru’n gweithredu’n fewnol a’u hagwedd at dryloywder.
“Heb dynhau’r rheolau’n sylweddol, bydd rhwydd hynt i weinidogion o hyd i gyfarfod pwy fynnon nhw heb fod neb yn gwybod amdano.
“Mae angen cofrestr o lobïwyr arnom ar frys yng Nghymru, a llawer mwy o dryloywder mwy eglur ar natur lobïo yng Nghymru.”