Mae gan Lywodraeth Cymru “gwestiynau mawr” i’w hateb ynglŷn â’i pherthynas gyda lobïwyr medd Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd Dwyfor Meirionnydd.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru wario £4.25m ar brynu fferm yn safle i gynnal Gŵyl y Dyn Gwyrdd – penderfyniad sydd wedi sbarduno amheuon gan aelodau o’r Wasg, y cyhoedd a’r gwrthbleidiau.

Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd, sy’n cael ei chynnal ger tref Crughywel ym Mhowys, yn un o ŵyliau cerddorol mwyaf y Deyrnas Unedig.