Rydan ni wedi codi’r wal dalu ar yr erthygl ganlynol, wnaeth ymddangos gyntaf yng nghylchgrawn Golwg, i bawb gael blas ar yr arlwy…
Mae Huw Onllwyn wedi holi un o fawrion gwleidyddol y genedl ar gyfer cyfres o erthyglau hynod i Golwg.
Yn fwyaf cyfarwydd am fod yn Llywydd cynta’r Cynulliad, a drodd maes o law yn Senedd Cymru, bu Dafydd Êl yn rhan o ddodrefn gwleidyddol Cymru byth ers cael ei ethol yn Aelod Seneddol ieuengaf Prydain nôl yn 1974, a hynny tros Blaid Cymru ym Meirionnydd.
Yn ail ran y cyfweliad cynhwysfawr cyntaf iddo ei roi ers iddo ymddeol o’r byd gwleidyddol y llynedd, mae’n sôn am gael ei wadd gan John Major, Prif Weinidog ar y pryd, i ymuno â Thŷ’r Arglwyddi yn y 1990au er mwyn rhoi Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar ei draed, rhoi talp o grant y Steddfod i’r Mentrau Iaith a bachu’r cyfle i weithio tros Senedd i Gymru…
Fe ddaeth gyrfa Dafydd yn San Steffan i ben, ar ôl 18 mlynedd, wrth iddo ddatgan na fyddai’n sefyll yn etholiad 1992. Roedd am droi at y byd academaidd.
“Ond bron yn syth,” meddai, “fe ddaeth gwahoddiad i mi gael cinio efo’r Arglwydd Hooson yn Nhŷ’r Arglwyddi. Gofynnodd i mi – cyn i ni archebu bwyd – i ‘ddod fan hyn’.
“Ar yr un pryd, roedd Wyn Roberts [Gweinidog Gwladol Cymru] wedi cyflwyno Bil y Ddeddf Iaith ger bron San Steffan [gyda chymorth Earl Ferrers yn Nhŷ’r Arglwyddi]. Cefais wahoddiad i gartref Wyn, Tan y Gwalia, ger Conwy. Esboniodd i mi: ‘Os ei di fanna [Tŷ’r Arglwyddi] fe fyddi di’n gallu ein helpu mwy yn y Bwrdd Iaith. Fe fyddi di’n Gadeirydd corff cyhoeddus ond efo proffil uwch’.
“Yn dilyn hyn fe ddaeth llythyr i mi gan y Prif Weinidog, John Major, yn fy ngwahodd yn ffurfiol i ymuno â Thŷ’r Arglwyddi. Fe es am dro i ben Cadair Idris i gael meddwl am y peth. Ond erbyn i mi barcio’r car ar waelod y mynydd, roeddwn wedi penderfynu mynd amdani – ac ymuno fel croes feinciwr.”
Fe’i atgoffais bod cefn gwlad Dolgellau hefyd wedi ysbrydoli Theresa May, cyn iddi alw etholiad cyffredinol yn 2017. Chwarddodd Dafydd – am hanner eiliad.
“Cefais fy meirniadu, wrth gwrs, ond doeddwn i ddim yn poeni am hynny. Nid oedd fy meirniaid wedi deall y realpolitik. Cyfle i gynrychioli Cymru a phwyso am yr hyn yr oeddwn am ei weld i Gymru. Sef, wrth gwrs, datganoli – neu Senedd i Gymru. ‘Grow up’ oedd fy neges i’r rhai fu’n cwyno. Roeddwn hefyd yn cofio geiriau fy nhad, wrth i mi ystyried a ddylwn dderbyn gwahoddiad y Blaid i sefyll fel ymgeisydd yn Nghonwy: ‘Os yw pobl yn meddwl dy fod yn ddigon da, yna cer amdani’.”
Bwrdd yr Iaith a chic i’r Steddfod
“Y peth cyntaf a wnes i yn Nhŷ’r Arglwyddi oedd siarad yn ystod ail ddarlleniad y Bil Iaith.”
Roedd Wyn Roberts yno’n gwrando arno – ac fe ddaeth yn ôl i’w swyddfa yn Nhŷ Gwydir (lle’r oeddwn yn gweithio iddo fel ei ysgrifennydd preifat) gan ddatgan: ‘I think Lord Thomas deserves to be Chair of the Welsh Language Board after that performance’. Yr adeg hynny roedd apwyntiadau’n bethau mwy dirgel, heb unrhyw hysbysebu, proses dryloyw, neu gyfweliadau ffurfiol. Yn hytrach, roedd gweision sifil yn paratoi cyngor, gan gyflwyno nifer o enwau posib (oedd eisoes wedi eu bwydo iddynt gan weinidogion, gweision sifil ac unigolion eraill). Yn aml fe fyddai’r cyngor yn mynd o weinidog i weinidog, wedi iddynt ychwanegu nodiadau i’r ddogfen gyngor. Y côd dirgel oedd: ‘unacceptable’ (ddim yn ddigon da); ‘acceptable’ (yn ddigon da i wneud y swydd) neu ‘very acceptable’ (yn ddigon da – a hefyd yn aelod o’r blaid Geidwadol). Mae’r drefn wedi newid ychydig ers hynny, wrth gwrs!
Er nad oedd yn Geidwadwr, apwyntiwyd Dafydd yn Gadeirydd ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg (gan ddilyn John Elfed Jones a weithiodd yn llwyddiannus iawn fel Cadeirydd y Bwrdd Iaith ymgynghorol). Roedd Dafydd yn ‘acceptable’.
“Dywedodd David Hunt [Ysgrifennydd Cymru] wrthyf: ‘We’re taking a big risk with you. One minute you’re in the Commons denouncing the Conservative Government. Then you get a peerage – and now you’re working for a public body under a Conservative Government!’
‘Yes, but circumstances change,’ oedd f’ateb iddo.
“A dyna lle y bûm rhwng 1994 a 1999 yn arwain y Bwrdd wrth iddo ddatblygu canllawiau ar gyfer creu cynlluniau iaith; canllawiau i’r sectorau preifat a gwirfoddol – a dyrannu grantiau i’r Steddfod, Mudiad Meithrin, y Cyngor Llyfrau a’r Urdd.”
O dan ei gadeiryddiaeth fe drefnwyd arolygon annibynnol o waith y Cyngor Llyfrau a’r Eisteddfod. Gyda’r ail fe ddaethpwyd i’r canlyniad fod hen dargedau’r Swyddfa Gymreig wedi ffocysu gymaint ar godi’r nifer o ymwelwyr nes bod yr ŵyl yn gwerthu tocynnau’n rhy rhad – ac yn dosbarthu gormod o docynnau am ddim (drwy gynlluniau BOGOF [buy one get one free] a mwy). O’r herwydd, roedd incwm y pen yr ŵyl wedi disgyn at £1.10. Gyda chytundeb Dafydd, torrwyd £50,000 o grant yr Eisteddfod a’i herio i gynyddu incwm (trosglwyddwyd yr arian i’r mentrau iaith newydd). Yn yr un modd, fe dorrwyd y grant i gylchoedd meithrin unigol (oedd yn cyfateb i £1.74 i bob rhiant bob wythnos) ac, eto, trosglwyddo’r arian i’r mentrau iaith.
Peth braf oedd cael Cadeirydd nad oedd yn ofni newid y drefn. No sacred cows, yn wir.
Ail refferendwm: dylanwadu ar Tony Blair
“Yn y cyfamser,” esboniodd Dafydd, “roeddwn dal wrthi’n ymgyrchu yn Nhŷ’r Arglwyddi yng nghyswllt datganoli. Y prif weithgaredd yn hynny o beth oedd fy nghyfarfodydd yn Nhŷ Gwydir efo’r Arglwydd Gwilym Prys Davies a John Morris. Roedden nhw yn fy nefnyddio fel sounding-board ar gyfer gwahanol ddadleuon. Trwy’r broses yma, felly, y bu modd i mi helpu dylanwadu ar Tony Blair i gynnal ail refferendwm, yn 1997.
“Enillwyd y refferendwm, wrth gwrs, efo mwyafrif o 6,721. A gallaf ddatgelu mai dyna’r rhif a ddefnyddiais fel PIN fy ngherdyn banc am y ddwy flynedd nesaf! Gwariais noson y refferendwm ar Radio Wales, yn beirniadu’r cefnogwyr datganoli oedd wedi mynd i’w gwlâu mewn anobaith.
“Yn fy ngwaith fel Cadeirydd y Bwrdd bûm yn cyfarfod efo pob awdurdod sir yng Nghymru. Fe ddes i ddeall mwy am bob etholaeth. Megis eu safbwyntiau gwleidyddol, y ganran o Gymry Cymraeg – a mwy. O’r herwydd, pan gyhoeddwyd pleidlais Wrecsam [44% dros ddatganoli – yn fwy na’r disgwyl] roedd modd i mi ddeall arwyddocâd hynny yng nghyswllt beth oedd yn debyg o ddigwydd yng ngweddill Cymru. Roeddwn yn optimistaidd! Roedd yn noson gyffrous.”
Creu’r Cynulliad – a sôn am Senedd
“Fy nghyfraniad nesaf oedd i gynnig gwelliant yn ystod darlleniad o’r Bil Datganoli er mwyn newid enw’r corff arfaethedig o’r Welsh Assembly – a oedd yn ddiffygiol o ran urddas a, beth bynnag, ddim yn enw synhwyrol – i National Assembly, yn debyg i’r Assemblée Nationale yn Ffrainc. Tynnais y cynnig yn ôl yn dilyn ymateb gan y Llywodraeth yn ei wrthod – nid oeddwn am fynd mor bell â cholli unrhyw bleidlais am yr enw. Byddai hynny’n ergyd oedd yn well ei hosgoi.
“Ond ychydig wedyn fe dderbyniais neges gan Ron Davies [yr Ysgrifennydd Gwladol, bryd hynny] y byddai’r enw’n cael ei newid, yn unol â fy nghynnig.
“Maes o law cefais wahoddiad gan Rachel Lomax [Ysgrifennydd Parhaol y Swyddfa Gymreig] i weithredu fel Llywydd y Cynulliad. ‘You will do this for us won’t you?’ meddai. ‘Well, it’s not your role, constitutinally, to ask me,’ atebais. ‘I know’, meddai Rachel, ‘but dont you worry about that.’ ‘Well, if you believe I can do it, I will,’ atebais.
“Fel Llywydd, wrth gwrs, nid oedd modd i mi fynychu cyfarfodydd grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad. Nid oeddwn am wybod beth oeddent yn ei drafod – ac nid oeddwn am wynebu unrhyw special pleading gan y Blaid. Roedd yn holl bwysig i mi weithredu yn hollol broffesiynol.
“Roeddwn yn falch iawn wedyn,” meddai Dafydd, “wedi i ni recriwtio Paul Silk yn glerc i’r Cynulliad yn 2001 [roedd eisoes yn glerc yn San Steffan]. Ei gynnig ef oedd galw cartref newydd y Cynulliad ym Mae Caerdydd yn Senedd – heb unrhyw gyfieithiad i’r Saesneg. ‘Why don’t you just call it a Senedd in both languages and have done with it?’ meddai wrthyf. ‘Just do that. It’s not difficult to pronounce’. Roedd modd, wedyn, i ni ddechrau cyfeirio at ‘benderfyniadau yn y Senedd’ – yn debyg i benderfyniadau yn y Knesset, y Dáil a’r Duma.”
Dod â Senedd, drwy’r drws cefn, yn rhan o’n sgwrs yng Nghymru! Cam wrth gam, felly, roedd Dafydd wrthi’n cynyddu statws y corff newydd.
Ymddiswyddiad Alun Michael: cynllwynio efo Rhodri Morgan
Alun Michael wnaeth arwain y Blaid Lafur yn etholiadau cynta’r Cynulliad yn 1999, ac roedd yn cael ei weld fel pwdl Tony Blair. Ac fe gafodd y bai am golli cadarnleoedd megis Islwyn a’r Rhondda i Blaid Cymru.
O fewn llai na blwyddyn yn arwain Llywodraeth leiafrifol ym Mae Caerdydd, roedd Alun Michael yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder, a phenderfynodd roi’r ffidil yn y to.
Yma mae Dafydd Elis-Thomas yn sôn am ei ran yn y ddrama wleidyddol ar y pryd, ac yntau yn Llywydd y Cynulliad.
“Alun Michael, wrth gwrs, oedd Prif Weinidog [First Secretary] cyntaf Cymru – ac fe aeth hynny’n chwâl yn fuan wrth iddo wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn ei waith. Fe fyddi di’n cofio i Alun gynnig i mi ei lythyr ymddiswyddo, cyn y bleidlais. Ond bu rhaid i mi esbonio iddo: ‘I don’t read correspondence during Plenary,’ cyn pasio’r llythyr, heb ei agor, i un o fy swyddogion.
“Roeddwn wedi cael clywed fod Alun am wneud hyn ac, o’r herwydd, cefais sgwrs efo fy nghwnsel, David Lambert [cyn-gwnsler y Swyddfa Gymreig], ynglŷn â sut i ddelio gyda’r mater. Cadarnhad i mi fod pethe am fynd braidd yn flêr oedd gweld John Shortridge [yr Ysgrifenydd Parhaol bryd hynny] a Winston Roddick [cwnsler y Cynulliad] yn eistedd gyda’i gilydd yn ardal gyhoeddus yr hen siambr, yn Nhŷ Crughywel.
“Trwy baratoi, roedd modd i mi arwain y ddrama gan ddilyn rheolau’r Cynulliad. I mi, roedd yn hollbwysig sicrhau proses glân a threfnus er mwyn apwyntio Prif Weinidog newydd.
“Rhodri Morgan oedd hwnnw, wrth gwrs. Roeddwn yn ei adnabod yn dda – ac yn byw yn agos iddo yn Llanfihangel y Pwll. Roeddwn yn meddwl y byd o’i dad, yr Athro T J Morgan, ac yn adnabod Prys, ei frawd. Daeth Rhodri i fy ngweld y noson cyn i Alun ymddiswyddo, er mwyn trafod y drefn gywir i’w dilyn. Ar y diwrnod, gohiriais y Cynulliad – a chyfarfu’r grŵp Llafur cyn dychwelyd mewn undod gan enwebu Rhodri.”
Eto i ddod – taflu Dafydd Êl allan o’r Blaid yn 2016, dod yn Ddirprwy Weinidog yn Llywodraeth Cymru, a’i safbwyntiau ar bolitics y dydd:
“Dw i o’r farn fod dêl Adam efo Mark yn beth gwych iawn i’r Blaid…”
Cylchgrawn Golwg yn ddigidol ar y We
Os ydych chi eisiau darllen erthyglau cylchgrawn Golwg ar y We, ewch i fan hyn: