Does dim yn well gan artist o Aberystwyth na pheintio ar froc môr, pan fo’r amser yn caniatáu.

Dyma’r arfer sy’n sail i enw siop Lizzie Spikes a’i phartner busnes, Becky Barratt – Driftwood Designs.

Mae’r ddwy’n gwerthu eu cardiau, printiau a chynnyrch i’r cartref mewn siopau ar draws y wlad, ac mae cyfran helaeth o’r dyluniadau wedi’u hysbrydoli gan lenyddiaeth Gymraeg a’r byd naturiol o’u cwmpas.