Mae Jonathan Edwards wedi cyhoeddi ei fod yn camu’n ôl o grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, a hynny ar ôl i arweinyddiaeth y Blaid droi yn ei erbyn.

Fis Gorffennaf 2020, cafodd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ei atal am gyfnod o 12 mis gan banel o Bwyllgor Aelodau, Disgyblu a Safonau’r Blaid.

Roedd hyn er mwyn “adlewyrchu natur ddifrifol y rhybudd” gafodd o gan yr heddlu am ymosod ar ei wraig, Emma Edwards.