“Does dim byd rhamantus ambwyti castell,” yn ôl Dr Elin Jones…

Rhaid i genedl y Cymry dderbyn ei ffaeleddau a’i gwendidau yn hytrach na gwyngalchu’r gorffennol, ac mae angen meddwl eto am y ffordd rydan ni’n “ymfalchïo” yng nghestyll ein gwlad.

Dyna gri Dr Elin Jones wrth iddi alw ar y Cymry i gydnabod eu rhan yn yr ymdrechion Prydeinig i drefedigaethu rhannau eraill o’r byd.