Mae Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig newydd y Theatr Genedlaethol, wedi bod yn rhoi cig ar esgyrn ei gynlluniau …

Agor y drysau yn lletach. Atgyfodi hen glasurol coll Cymraeg. Dod â’r gynulleidfa i mewn i’r gwaith creu. Meithrin doniau newydd. Teithio i bob twll a chornel o Gymru.

Dyna rai o’r pethau mae Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr Genedlaethol Cymru yn gobeithio’u cyflawni yn rhinwedd ei swydd.