Adrodd hanesion merched hanesyddol Pen Llŷn yw un o’r themâu sy’n ymddangos dro ar ôl tro yng ngwaith dylunydd o Aberdaron.

A nawr mae Sioned Williams wedi mynd ati i ddylunio crysau er mwyn codi arian at Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd… a Dilys Cadwaladr, y ddynes gyntaf i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol, yw’r fenyw leol sy’n cael sylw yn y dyluniad.

Bydd yr arian yn mynd tuag at Bwyllgor Apêl Aberdaron, sydd wedi cael targed i godi £10,000 at Eisteddfod Boduan flwyddyn nesaf.