Yn hytrach na chodi gobeithion y blogwyr, mae penodi Prif Weinidog newydd i’r Deyrnas Unedig yn eu llenwi ag ofn. Barn ei gwrthwynebwyr ydi fod Liz Truss, yr enillydd tebygol, am wneud pethau’n waeth. Dyw ei hatebion economaidd ddim yn iawn, meddai John Dixon. Er enghraifft…

“Mae hi’n iawn i dynnu sylw at lefelau isel cynhyrchu yn economi’r DU ac yn iawn i dynnu sylw at y gwahaniaethau rhanbarthol mewn lefelau cynhyrchu, sydd fel petaen nhw’n dangos mai yn Llundain y mae’r lefelau ucha’. Ond mae [Liz Truss] wedi cadarnhau ei henw am dwpdra ideolegol drwy wneud smonach anferthol o’r deiagnosis (dyw pobol y tu allan i Lundain ddim yn gweithio’n ddigon caled) a’r ateb (chwipiau mwy). Fe ddylen ni bryderu o ddifri fod rhywun sydd mor bell o realiti yn gallu dod yn agos at olwynion grym. Prif ysgogydd gwell lefelau cynhyrchu yw buddsoddi a’r rheswm fod lefelau cynhyrchu yn y DU mor isel o gymharu â’r rhan fwya’ o economïau datblygedig eraill yw fod cyn lleied o fuddsoddi wedi bod yn y degawdau diwetha’.” (borthlas.blogspot.com)

Yn ôl y Democrat Rhyddfrydol, Peter Black, mae’r llywodraeth a’i darpar arweinwyr yr un mor anghywir wrth gymryd agwedd ymosodol at weithwyr sydd ar streic…

“Mae’r streiciau presennol wedi cael eu gorchymyn gan bleidlais aelodau ac maen nhw’n gyfreithlon. Ar ben hynny, mae gan y cyhoedd gydymdeimlad at yr holl weithredu diwydiannol sydd ar droed… does dim ateb i’r achos dros godiadau cyflog deche, nac i’r angen i weinidogion wneud llawer rhagor i helpu. Fe fydd yr agwedd llawn gwrthdaro yma at berthnasau diwydiannol yn gwneud pethau’n waeth, i’r wlad ac i’r llywodraeth.” (peterblack.blogspot.com)

Os ydi’r rhan fwya’ o’r sylw yn dueddol o fod ar dlodi mewn trefi a dinasoedd, mae Sefydliad Bevan wedi cyhoeddi ymchwil sy’n dangos ei bod yn gallu bod hyd yn oed yn waeth yng nghefn gwlad…

“Mae cipolwg diweddara’ Sefydliad Bevan ar dlodi wedi dangos bod mwy nag un o bob wyth teulu Cymreig yn cael trafferth, weithiau neu yn aml, i fforddio nwyddau pob dydd. Yn gyfan gwbl, does gan 45% o deuluoedd Cymreig ond digon o arian i’r pethau sylfaenol. Mae’r ffigurau hyn ar gyfer Cymru gyfan yn ddigon drwg ond mae’r pwysau ar deuluoedd mewn cymunedau gwledig hyd yn oed yn waeth. Pam? Am fod ardaloedd gwledig yn wynebu gwasgfa dair ffordd o gyfeiriad costau uchel, cyflogau isel a chymorth cyfyngedig…” (Victoria Winckler ar bevanfoundation.org)

Mewn maes cwbl wahanol, does gan yr Unoliaethwr Andrew Potts ddim ffydd yng ngallu Liz Truss i achub yr Undeb chwaith…

“Yn un o’r hystings am yr arweinyddiaeth, fe alwodd Ms Truss Nicola Sturgeon yn rywun sydd yn hoffi chwilio am sylw ac y dylid ei ‘hanwybyddu’… Efallai fy mod i’n anghytuno â’i gwleidyddiaeth ond Sturgeon yw arweinydd etholedig tua pum miliwn o Albanwyr. Yn yr un modd, Mark Drakeford (‘fersiwn cadach llestri o Jeremy Corbyn’) a thair miliwn o Gymry. Mae gwleidyddiaeth yn ymwneud â siapio syniadau nid eu hanwybyddu.” (nation.cymru)