Mae barbwr wedi bod yn creu cerddoriaeth gyda Mr Phormula, ac eisiau cydweithio gydag Eden a Bryn Fôn…

Cerddorion sy’n cuddio pwy ydyn nhw go-iawn ac yn aros yn anhysbys. Bois difyr.

Mae digonedd ohonyn nhw i gael – Daft Punk, Gorillaz, Buckethead (y gitarydd Guns n Roses gwych sy’n gwsigo bwced Kentucky Fried Chicken am ei ben), a’r band metel trwm anwaraidd GWAR o Virginia yn Mericia.

Ond peth prin ydy’r math yma o beth yn y Sîn Roc Gymraeg… tan rŵan!