Tymor newydd, yr un hen gastiau.

Chwaraewyr Bwcle yn pwyso ar y dyfarnwr am gic rydd i’w tîm, a hynny mewn gornest yn erbyn Holyhead Hotspur ar gae’r Oval Newydd yng Nghaergybi.

Mae pryderon am ddyfodol y gamp ar lawr gwlad wrth i nifer y dyfarnwyr cymwys grebachu, oherwydd eu bod yn parhau i gael eu bychanu a’u sarhau.