Tor-priodas, tor-calon, galar, unigrwydd, pwysau ariannol, diweithdra – teg dweud bod y pandemig wedi effeithio ni gyd mewn un ffordd neu’r llall. Dros y pythefnos nesaf fe fydd y ddwy awdur hynod brofiadol, Rhian Cadwaladr a Marlyn Samuel, yn cynnig cyngor doeth, difyr gan drafod ystod eang o broblemau, o fagu plant i’r menopos a phopeth yn y canol. Yr wythnos hon, yr awdur ac actor Rhian Cadwaladr o Rosgadfan ger Caernarfon sy’n rhoi cyngor am sut i ddelio gyda nyth wag…