Dydw i erioed wedi bod yn un mawr iawn am deledu realiti, dim ers ychydig gyfresi cyntaf Big Brother yn oes yr arth a’r blaidd. Geith pethau fel X-Factor, Britain’s Got Talent, Made in Chelsea ac unrhyw beth tebyg fynd i’r bin. F’unig ymateb i’r cyhoeddiad diweddar fod S4C wedi sicrhau’r hawliau i wneud Gogglebocs Cymru oedd “pam?” blinedig a dryslyd.