Mae arddangosfa newydd yn defnyddio offer y glowyr a darnau o bwll glo i adrodd hanes un o ddigwyddiadau mwya’r ganrif ddiwethaf…
40 mlynedd yn ôl, treuliodd 22,000 o lowyr o Gymru flwyddyn yn streicio yn erbyn cynlluniau i gau pyllau glo.
Streic! 84-85 yw testun arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, fydd yn defnyddio lluniau, offer gweithwyr, placiau a thrawstiau o do un pwll glo i adrodd yr hanes.