Dyw hi ddim yn ymddangos fod gan Jonathan Edwards unrhyw fwriad o gamu’n ôl o’r byd gwleidyddol, er nad yw’n rhan o grŵp seneddol Plaid Cymru mwyach.

Fe darodd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn ôl yr wythnos diwethaf wedi i arweinyddiaeth Plaid Cymru alw arno i ymddiswyddo, gan ddweud bod rhai o aelodau’r blaid “wedi ymosod yn ddialgar” arno.

“Dw i erioed wedi gwneud unrhyw ddatganiadau cyhoeddus am fy mywyd personol nag am sut oedd y blaid yn delio gyda fy achos,” meddai.