Rydan ni’n codi’r wal dalu ar y golofn newydd ‘Gair o gyngor’ sydd i’w gweld yn y rhifyn cyfredol o gylchgrawn Golwg, i bawb gael blas o’r arlwy…

 

Tor-priodas, tor-calon, galar, unigrwydd, pwysau ariannol, diweithdra – teg dweud bod y pandemig wedi effeithio arnom ni gyd mewn un ffordd neu’r llall. Dros yr wythnosau nesaf fe fydd awduron adnabyddus yn cynnig cyngor doeth a difyr, gan drafod ystod eang o broblemau, o fagu plant i’r menopos a phopeth yn y canol.

Yr wythnos hon, yr awdur ac actor Rhian Cadwaladr o Rosgadfan ger Caernarfon sy’n rhoi cyngor am sut i ddelio gyda nyth wag…

Annwyl Rhian,

Dw i’n fam sengl ac mae fy unig blentyn yn mynd i’r brifysgol ym mis Medi. Rydan ni’n agos iawn ac mi fydda i yn gweld ei heisiau hi’n ofnadwy. Dw i wedi dibynnu arni lot ers i fi gael difors. Oes gynnoch chi unrhyw gyngor am sut i ymdopi efo nyth wag? Dw i erioed wedi byw ar ben fy hun o’r blaen…

I ddechrau, llongyfarchiadau ar lwyddo i wneud joban anodd iawn – magu plentyn o’r crud i’r byd. Mae amryw gam heriol wedi bod ar hyd y ffordd mi waranta ac fel y bu rhaid cuddio’r dagrau wrth ei gwylio yn cerdded i mewn i’r dosbarth meithrin ar ei diwrnod cynta’ yn yr ysgol, neu wrth chwifio arni yn mynd ar y bys i Langrannog neu Glan-llyn am y tro cynta’, rhaid cuddio’r dagrau rŵan hefyd. Mi fydd hon yn antur fawr gyffrous iddi – y fwya’ eto ac mi fydd hi angen ei mam yn gefn iddi ac nid yn rhywun y dylai fod yn poeni amdani.

Mae gollwng eich cyw i’r byd yn rhan annatod o fod yn rhiant ac, ydi, mae’n anodd ac, ydi, mae’n brifo – fel y boen o roi genedigaeth mae’n bris sydd rhaid i fam ei dalu am y fraint o gael ei galw’n hynna. Ond gall fod yn gyfnod cyffrous i chitha hefyd – cyfnod i ddarganfod pwy ydach chi? Pwy ydach chi isho bod rwan? Y chi fel person ac nid jest mam. Cyfle i ail-gysylltu efo pa bynnag ddiddordebau oedd ganddoch chi cyn cael plentyn ac i ddarganfod diddordebau newydd. Cyfle i gysylltu efo hen ffrindiau a gwneud rhai newydd. Peidiwch ag eistedd yn ôl a disgwyl i fywyd syrthio i’w le o’ch amgylch – trefnwch i gyfarfod ffrind, mentrwch ymuno a dosbarth celf; ymarfer corff; y côr; clwb darllen; neu’r grŵp sy’n nofio’n y môr bob bora – beth bynnag sydd yn mynd a’ch ffansi – byddwch ddewr! A peidiwch â bod ofn deud wrth rywun os ydach chi’n teimlo’n isel. Ceisiwch siarad efo rhywun sydd wedi bod, neu yn mynd, drwy’r un profiad a chi.

Un o’r addunedau Blwyddyn Newydd gorau wnes i, a hynny mewn cyfnod anodd yn fy mywyd, oedd peidio â gwrthod unrhyw gynnig rhesymol ac o gadw ato dw i wedi cael sawl profiad arbennig. Mi fyddai’n diolch am byth na wnes i wrthod y cynnig o fynd am ddêt naw mlynedd yn ôl, er mod i’n nerfus iawn o fynd. Os nad ydach chi’n gwybod lle i gychwyn chwilio am weithgareddau mae’r gwefannau cymdeithasol yn fan da i gychwyn. Holwch ar Facebook, er enghraifft, ac mi fyddwch yn siŵr o gael rhywun yn ateb.

Gwnewch drefniadau ar gyfer y dyddiau cynta’, yn lle eich bod yn eistedd yn y tŷ yn hel meddylia a gwnewch yn siŵr fod ganddoch chi rhywbeth i edrych ymlaen ato. Ewch am dro – a hynny yng nghanol natur os ydi hynny’n bosib, gwisgwch yn addas a dim ots am y tywydd. Edrychwch ar eich ardal fel petai chi newydd gyrraedd yno, dilynwch yr arwydd llwybr troed yna na fuoch chi ei lawr o’r blaen.

Trïwch osgoi’r demtasiwn i gysylltu efo’r ferch yn rhy aml. Mi fydd hi siŵr o fod yn gwybod eich bod chi yno iddi petai hi eich angen. Peidiwch â mynd i boeni os nad ydi hi’n ateb yn syth – mi fydd yn brysur yn mwynhau ei hun, siŵr o fod. Y peth gorau medrwn ni rieni wneud  ydi magu ein plant i fod yn annibynnol felly arfogwch hi efo’r sgiliau yna – sut i goginio, delio efo materion ariannol, cael gwared o staen oddi ar ddillad, gwnïo botwm, sefyll i fyny drosti hi ei hun… Os ydach chi’n ddigon lwcus i gael sgyrsiau facetime peidiwch â gwneud yr un camgymeriad a wnes i a dweud wrth y ferch fod ganddi lanast yn ei llofft – ches i ddim sgwrs facetime wedyn!

Cofiwch fwyta’n gall – dyma gyfle i wneud eich hoff brydau ac i fwyta beth bynnag mynnoch, pryd bynnag mynnoch, a pheidiwch â meddwl am funud nad ydy o’n werth cwcio pryd cyfan ddim ond i un. Cystal i chi wneud rhestr siopa ar eich tripiau cynta i’r archfarchnad rhag cael gormod. Taflwch ambell drît i chi’ch hun i’r fasged – ond ddim gormod, wrth gwrs! Gofalwch amdanoch eich hun fel y gofaloch chi am eich merch ac fe ddowch i arfer a’r cyfnod newydd yma yn eich bywyd. Pan ddaw hi adra mi fydd ganddoch chi’ch dwy gymaint i siarad amdano.

Cylchgrawn Golwg yn ddigidol ar y We

Os ydych chi eisiau darllen erthyglau cylchgrawn Golwg ar y We, ewch i fan hyn:

Tanysgrifiwch i Golwg a Golwg+ (360.cymru)