Mae cau Pont Menai “yn llawer mwy nag anghyfleustra”, yn ôl Rhun ap Iorwerth.
Daw sylwadau Aelod Plaid Cymru o’r Senedd ym Môn wrth ymateb i ddatganiad gan Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn Llywodraeth Cymru.
Cafodd y penderfyniad i gau’r bont i draffig ar unwaith ei wneud ddydd Gwener (Hydref 21), a dywedodd Lee Waters “nad ar chwarae bach” y cafodd y penderfyniad hwnnw ei wneud.
“Cafodd ei wneud ar sail diogelwch yn dilyn cyngor clir gan beirianwyr strwythurol a sgyrsiau â’r heddlu,” meddai.
Mae’r bont dan reolaeth UK Highways A55, meddai, ac fel rhan o’u gwaith mae’r cwmni wedi bod yn archwilio’r bont fel sy’n cael ei wneud bob dwy i chwe blynedd.
Cafodd pryderon eu codi am gyflwr y bont adeg yr archwiliad diwethaf yn 2019, a chafodd terfyn pwysau ei gyflwyno tra bod archwiliad pellach yn cael ei gynnal.
Fel rhan o’r archwiliad pellach hwnnw, cafodd Llywodraeth Cymru wybod am bryderon brys ac ar sail cyngor peirianwyr, penderfynodd Llywodraeth Cymru “nad oedd unrhyw opsiwn arall” heblaw am gau’r bont.
“Nid ar chwarae bach y cafodd y penderfyniad hwn ei wneud, a dw i’n llwyr werthfawrogi oblygiadau hyn i bobol leol, yn enwedig heb rybudd ymlaen llaw,” meddai Lee Waters yn ei ddatganiad i’r Senedd.
“Yn wreiddiol, fe wnaethon ni gynllunio ymgyrch gyfathrebu ymlaen llaw i roi rhybudd i bobol, ond yn dilyn sgyrsiau pellach gyda’r heddlu ac yn seiliedig ar y cyngor, fe wnaethon ni benderfynu bod rhaid cau’r bont ar unwaith.”
Dywed fod “diogelwch ein rhwydwaith a’r cyhoedd sy’n teithio o’r pwys mwyaf”, a bod y casgliadau arweiniodd at gau’r pont “dan adolygiad, fel sy’n arferol” ac y bydd hynny’n cymryd hyd at bythefnos.
Ond mae’n dweud y gallai gwaith pellach gymryd hyd at bedwar mis, gyda’r bont yn ailagor i gerbydau ar ddechrau 2023.
“Dw i’n ymwybodol iawn o’r anghyfleustra mae hyn yn ei achosi,” meddai.
“Yn amlwg, mae Pont Menai yn ddolen gyswllt hanfodol i bobol gogledd Cymru a thu hwnt, a hoffwn ddiolch i bobol leol am eu hamynedd a’u dealltwriaeth tra bod y gwaith brys hwn yn digwydd.
“A hoffwn eu sicrhau nhw fod Llywodraeth Cymru’n cydweithio â UK Highways a phob rhanddeiliad, gan gynnwys y gwasanaethau brys, i sicrhau bod modd gwneud hyn mor gyflym a diogel â phosib.
“Mae pob cerbyd bellach yn cael ei ddargyfeirio i Bont Britannia, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru’n gweithio ar frys ar gynlluniau wrth gefn pellach yn yr ardal, a byddan nhw’n parhau i fonitro’r tagfeydd fel rhan o newidiadau yn y dyfodol.
“Maen nhw hefyd yn datblygu strategaethau pellach i gynyddu gwytnwch Pont Britannia i leihau’r perygl o gau’r ddwy bont mewn amgylchiadau eithriadol.”
Dywedodd y byddai’r bont yn ailagor i gerddwyr a seiclwyr nad ydyn nhw ar gefn eu beiciau, ond fod nifer y bobol sy’n gallu bod ar y bont ar yr un pryd wedi’i gyfyngu.
Bydd modd i gerbydau’r gwasanaethau brys o dan 7.5 tunnell yn cael croesi’r bont os ydyn nhw’n bodloni rhai gofynion a bod mesurau rheoli traffig yn ddigon diogel i alluogi hyn i ddigwydd.
‘Tri chwestiwn sylfaenol’
Wrth ymateb, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod “hyn yn llawer mwy nag anghyfleustra” a bod “y sefyllfa’n llawer mwy difrifol nag yr oedd llefarydd y Ceidwadwyr wedi’i drin o”.
“Dwi’n meddwl bod yna dri chwestiwn sylfaenol yn codi rŵan,” meddai.
“Yn gyntaf, y flaenoriaeth: beth ydy’r camau sy’n cael eu cymryd i ymateb i hyn, cadw traffig i lifo, lliniaru risgiau?
“Yn ail, cyflwr y bont: sut adawyd i hyn ddigwydd yn y lle cyntaf? Sut mae dod o hyd i’r ffordd gyntaf i ailagor yn ddiogel?
“Ac yn drydydd, beth fydd yr ymateb er mwyn sicrhau gwytnwch yn yr hir dymor?
“O ran yr ymateb rŵan, te, mae yna gymaint o haenau i hyn: sicrhau does dim rhwystrau i gerbydau brys; sut i gael staff allweddol i’w gwaith—staff Ysbyty Gwynedd yn arbennig, ond llawer mwy na hynny—sut i gael pobl allan o’u ceir—mwy o drenau’n stopio mewn mwy o orsafoedd, mwy o fysus, annog mwy o ddefnydd o park and rides, bysus gwennol ac ati.
“A fydd y llwybr cerdded ar agor drwy’r cyfnod yma? Dydy hynny dal ddim yn hollol glir.
“Oes modd defnyddio’r llwybr wrth ymyl y rheilffordd ar ddec isaf pont Britannia i ryw bwrpas? Mae hynny’n rywbeth dwi wedi’i godi o’r blaen.
“Mae yna bwysau ar wasanaethau iechyd. Pa gamau fydd yna i wella darpariaeth ar yr ynys yn Ysbyty Penrhos Stanley, er enghraifft? Beth am gynlluniau i leihau’r angen i gau pont Britannia mewn gwynt, a’r cynlluniau brys wedyn, parcio loris ac ati, os oes rhaid cau? Beth am gynlluniau i liniaru ym mhorthladd Caergybi?
“Fel dwi’n dweud, mae yna gymaint o elfennau i hyn—gormod o restr yn fanna i ddisgwyl ymateb ar bob un ohonyn nhw gan y Gweinidog—ond does yna brin ddim mesurau cadarn wedi cael eu hamlinellu hyd yma.
“Mae’n rhaid inni glywed am fesurau pendant ar frys. A hefyd, os caf i ddweud, mi fydd angen buddsoddiad. Felly, a allwn ni gael ymrwymiad o adnoddau ychwanegol i’r cyngor sir, fydd yn gorfod delifro sawl elfen o’r mesurau yma?”
Sut ddigwyddodd hyn?
“Gadewch i ni ddod at yr ail elfen, te: sut ddigwyddodd hyn?” meddai Rhun ap Iorwerth wedyn.
“Rydyn ni wedi cael disgrifiad o’r rhaglen archwilio ac ati a wnaeth arwain at y datganiad ddydd Gwener, ond mae yna gwestiynau’n parhau i fi.
“Sut mae pethau wedi gallu gwaethygu mor gyflym, yn cyrraedd pwynt mor gritigol, mae’n ymddangos, mewn cyfnod mor fyr?
“Mae’n lot o waith edrych ar ôl pont o’r math yma — yn sicr dyw e ddim mor hawdd ag roedd Lewis Carroll yn ei awgrymu yn Through the Looking-Glass.
“Nid felly mae gwneud. Ond a oedd y gwaith cynnal a chadw, y gwaith paentio ac amddiffyn, wedi bod yn ddigon da? Yn sicr, dwi wedi bod yn gweld rhwd. Mwy nag arfer? Dwn i ddim; dwi ddim yn beiriannydd.
“Ond oedd Llywodraeth Cymru’n monitro’n ddigon da’r modd yr oedd UK Highways yn gwneud eu gwaith? Ac ai gwaith UK Highways oedd adnabod problemau’n gynnar – preventative maintenance schedule – neu ymateb i broblemau wrth iddyn nhw godi? Buaswn i’n mawr obeithio mai bod yn rhagweithiol oedd gofynion y cytundeb.
“Mae’n rhaid rhoi diogelwch yn gyntaf, wrth gwrs, ond hefyd mae angen asesu’n drylwyr ai cau oedd yr unig opsiwn. Oes modd symud yn gynt, yn ddiogel—hynny ydy, i ailagor? Ydw i’n iawn i ddeall mai asesu bydd yn digwydd am y tri neu bedwar mis nesaf, ac y gallai gwaith trwsio gymryd mwy na hynny?”
‘Mae angen croesiad newydd’
“A gadewch i mi droi at y pwynt olaf,” meddai Rhun ap Iorwerth wrth gloi ei sylwadau.
“Dwi ac eraill wedi rhybuddio’n hir am hyn. Rydyn ni angen croesiad newydd.
“Mi oedd Llywodraeth Cymru wedi addo croesiad, a dydy o dal ddim wedi digwydd.
“Mae yna bris i’w dalu am oedi—pris mewn punnoedd, pan fo chwyddiant mor fawr ag ydy o rŵan, ond pris cymunedol hefyd.
“Y ffaith bod cynllun Wylfa wedi dod i stop sy’n cael y bai yn aml, ond gadewch inni fod yn glir: nid ymateb i broblem traffig ydy’r angen am groesiad dual carriageway lle mae’r Britannia.
“Ydy, mae hi’n boen aros mewn ciw i groesi, ond, mewn difrif, gwytnwch – resilience – sydd dan sylw yn fan hyn. Dau groesiad sydd yna, ac mae un ohonyn nhw’n bont grog 200 mlwydd oed.
“Mi fu ond y dim i mi gael cytundeb Llywodraeth Cymru rai blynyddoedd yn ôl i gael system tair lôn, system peak flow, ond bod peirianwyr y Llywodraeth wedi penderfynu yn y pen draw bod y bont yn rhy gul i hynny, yn enwedig o ystyried bod traffig yn ymuno efo pont Britannia ar gyflymder uchel.
“Efallai fod modd edrych ar weithredu rhywbeth felly dros dro rŵan.
“Ond y gwir amdani ydy bod angen ateb parhaol, gwydn.
“Un peth ydy bod yn ynys, peth arall ydy cael ein hynysu, a dyna’r realiti sydd wedi cael ei amlygu rŵan.
“Dwi’n edrych ymlaen at ymrwymiad o’r newydd i ailgydio, ar frys, yn y gwaith o ddatblygu croesiad newydd.”
Ymateb
Diolchodd Lee Waters i Rhun ap Iorweth “am y ffordd mae e wedi ymgysylltu â’r mater hwn”, gan ddweud ei fod “yn deall ei bryderon” a bod “ei gwestiynau’n deg”.
Ychwanegodd y byddai’n ysgrifennu ato i ateb unrhyw gwestiynau sy’n dal heb eu hateb ac yn trefnu cyfarfod fel bod modd gwyntyllu’r pryderon.
Dywedodd fod ‘A gafodd digon ei wneud?’ ac ‘A oes gwersi wedi’u dysgu?’ yn “gwestiynau teg, ac yn gwestiynau rydyn ni’n gofyn i ni’n hunain”.
“Byddwn ni’n adolygu’r hyn sydd wedi digwydd i’n cael ni i’r cam hwn,” meddai.
Dywedodd fod swyddogion “wedi’u synnu” yr wythnos ddiwethaf fod angen gwneud gwaith brys ar y bont a bod rhaid bod “yn hollol sicr” cyn ei chau.
Ond dywedodd fod y broses o archwilio’r bont yn un “sydd yn gweithio” gan ei bod wedi dod o hyd i broblemau.
“Mewn ffordd, mae’r mesurau diogelwch oedd gennym yn eu lle yn effeithiol,” meddai.
“Mae’r perygl o ddigwyddiad catastroffig ar y bont yn dal yn isel, ond mae’n rhy uchel i ni gymryd risg.
“Mae’n bosib y bydd y gwiriadau fydd yn digwydd dros y bythefnos nesaf yn dod i’r casgliad fod hyn wedi bod yn orymateb ac y byddwn ni’n gallu agor y bont, gyda chyfyngiadau pwysau, yn gynt o lawer.
“Mae fy swyddogion yn fy nghynghori eu bod nhw’n credu bod hynny’n annhebygol, ond mae’n sicr yn bosibilrwydd, a fyddwn ni ddim yn ei chadw ar gau am yn hirach nag yr ydyn ni’n teimlo y gallwn ni ei gyfiawnhau trwy gydbwyso’r peryglon.”
Ateb cwestiynau
Wrth ateb cwestiynau Rhun ap Iorwerth, dywedodd Lee Waters fod sefyllfa’r bont “yn rywbeth sydd wedi tueddi i ddigwydd dim mwy na dwywaith y flwyddyn”.
“Felly mae’n ddigwyddiad prin a phan fo’n digwydd, mae’n digwydd ar y cyfan am rai oriau yn unig.
“Mae’n amlwg yn achosi cryn anghyfleustra, a dw i ddim yn lleihau hynny; dw i jyst yn ei roi yng nghyd-destun pa mor aml.
“Dw i’n credu ei bod hi wedi’i chau ddeg gwaith ers 1987, Pont Britannia.”
Mae’n dweud bod y gwaith o edrych ar drydydd croesiad wedi pasio’r cam diweddaraf, ac y byddai’n costio oddeutu £400m yn ôl “yr amcangyfrif presennol”, ac y byddai’n cymryd hyd at saith mlynedd i’w gwblhau gan fod “y pethau hyn yn ddrud ac yn araf”.
“Os yw’r archwiliad hwnnw ymhen pythefnos yn dangos bod y penderfyniad yn un cywir, yna bydd modelu manwl yn cael ei wneud gan gwmni cwbl wahanol, sydd hefyd yn hynod brofiadol yn y strwythurau hyn, er mwyn sicrhau ei fod yn annibynnol, a bydd modelu pellach wedyn yn cael ei wneud,” meddai Lee Waters.
“Felly byddwn ni’n sicrhau ein bod ni’n gwneud hyn yn iawn, a byddwn ni’n sicrhau ein bod ni’n ei wneud e wrth feddwl am ddiogelwch, a byddwn ni’n gwneud popeth allwn ni yn y cyfamser i helpu pobol Ynys Môn a thu hwnt sy’n wynebu anghyfleustra yn sgil y tagfeydd mae hyn yn ei achosi ar amserau brig.”